Beth yw gwaith Uned Ymchwil Cyngor Celfyddydau Cymru?
Mae Uned Ymchwil Cyngor Celfyddydau Cymru yn rhan o'r Tîm Cynllunio a Datblygu. Mae'r Uned Ymchwil yn gyfrifol am gomisiynu gwaith ymchwil ad hoc a chynnal nifer o arolygon parhaus. Yr arolwg mwyaf a'r manylaf o'r rhain yw monitro gweithgarwch y sefydliadau sy'n cael cyllid refeniw.
Nod cyffredinol yr uned ymchwil yw datblygu a gweithredu rhaglen o ymchwil sy'n darparu:
- cronfa o dystiolaeth gadarn i gefnogi datblygiad polisi strategol y Cyngor;
- gwybodaeth i'w defnyddio wrth hyrwyddo gwerth y celfyddydau yng Nghymru;
- gwybodaeth sy'n helpu sefydliadau celfyddydol i ddatblygu cynlluniau strategol.
Fel rheol, cyhoeddir holl waith ymchwil y Cyngor ar y wefan. Fodd bynnag, cedwir amrywiaeth o ddata a deunydd cyfeirio gennym hefyd. Os na allwch ddod o hyd i'r wybodaeth rydych yn chwilio amdani, mae croeso i chi e-bostio'r tîm ymchwil a all fod o gymorth:
ymchwil@cyngorcelfyddydaucymru.org.uk