Cyngor Celfyddydau Cymru | Canllawiau i Sefydliadau a ariennir gan Refeniw

Canllawiau i Sefydliadau a ariennir gan Refeniw

Canllawiau defnyddiol i Sefydliadau a ariennir gan Refeniw.


Monitro Busnes

Isod ceir dogfen sy'n amlinellu'r wybodaeth sy'n ofynnol gan Gyngor Celfyddydau Cymru yn ystod pob blwyddyn er mwyn cael gwybodaeth am sut y gweithreda eich sefydliad a sut y perfformia. Ceir dogfen hefyd i gyflwyno'r wybodaeth honno i Gyngor Celfyddydau Cymru.

logo pdf bachMonitro Busnes Sefydliadau Sy'n Cael Arian Refeniw

Microsoft ExcelGofynion Safonol Monitro Busnes Chwarterol (Dwyieithog)

Microsoft ExcelGofynion Safonol Monitro Busnes Blynyddol (Dwyieithog)


Comisiwn Elusennau

Swyddfa Gymreig:

Llawr 8
Tŷ Clarence
Plas Clarence
Casnewydd
NP19 7AA

Pob Ymholiad Ffôn: 0845 3000 218

Minicom i ymholwyr sydd â nam ar eu clyw neu leferydd: 0845 3000 219

Mae’r Comisiwn Elusennau yn cofrestru a rheoleiddio elusennau yng Nghymru a Lloegr. Maent yn cynnig cyngor iddynt ac yn darparu ystod eang o wasanaethau a chanllawiau i’w cynorthwyo i fod mor effeithiol â phosib. Maent hefyd yn cadw Cofrestr ar-lein o Elusennau sy’n darparu gwybodaeth am bob un o’r miloedd o elusennau yng Nghymru a Lloegr.

Fel elusen gofrestredig mae nifer o reoliadau a argymelliadau a ellir dod o hyd iddynt ar eu gwefan:
www.charitycommission.gov.uk


Dolenni Defnyddiol

Yr Holl Ganllawiau: Dyma restr o ddolenni i holl Ganllawiau’r Comisiwn Elusennau (mewn fformat PDF neu HTML)

Gofynion Blynyddol: Gwelir yma wahanol ofynion sy’n dibynnu ar incwm eich elusen.

Cyfrifon ac Adroddiadau Elusennau: Mae'r adran hon yn esbonio pryd y mae angen i ni gael gwybod am newidiadau i fanylion neu statws elusen. Mae hefyd yn rhoi canllawiau i elusennau ac ymgynghorwyr elusennau ar sut i baratoi Ffurflenni Blynyddol ac Adroddiadau Blynyddol yr Ymddiriedolwyr a Chyfrifon.

Llywodraethu Elusennau: Egwyddorion llywodraethu da a rheoli risg.

Gwrthdaro Buddiannau Mewn Elusennau Celfyddydol: Dolen i ganllawiau’r Adran dros Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon ar gyfer delio gyda thrafodiadau ymddiriedolwyr a sefyllfaoedd tebyg lle gallai gwrthdaro buddiannau ddigwydd.

Gweithgareddau Elusennol: Canllawiau a ffynonellau eraill o wybodaeth am agweddau penodol ar weithgaredd elusennol.


Lawrlwytho'r wybodaeth am y Comisiwn Elusennau mewn fformat PDF.

Artist: Rabab Ghazoul

Elusen Gofrestredig Rhif 1034245