Mae Cyngor Celfyddydau Cymru ar hyn o bryd yn ariannu 71 o sefydliadau yn flynyddol.
Beth yw Sefydliadau a ariennir gan Refeniw?
Sefydliadau a ariennir gan Refeniw yw'r cleientiaid hynny sy'n cael grantiau rheolaidd, a ddyfernir yn flynyddol, tuag at eu gweithgareddau craidd.
Mae buddsoddiad Cyngor Celfyddydau Cymru mewn Sefydliadau a ariennir gan Refeniw yn un o'r prif ffyrdd rydym yn anelu at sicrhau sector creadigol a deinamig ar gyfer y celfyddydau, a chyflawni'r blaenoriaethau strategol a amlinellwyd yn ein Cynllun Corfforaethol ac a gytunwyd arnynt gyda Llywodraeth Cymru.
Mae ein Polisi ar gyfer rheoli Portffolio Cyngor Celfyddydau Cymru o Sefydliadau a ariennir gan Refeniw yn amlinellu'r prosesau yr ydym wedi eu mabwysiadu i gyflawni'r nodau blaenoriaeth hynny.
Adolygiad Buddsoddi
Ym Mehefin 2010, penderfynodd Cyngor Celfyddydau Cymru 'mewn egwyddor' ar bortffolio o sefydliadau a fydd yn greiddiol i'n strategaeth i ddatblygu celfyddydau Cymru.
I gefnogi ein Sefydliadau a ariennir gan Refeniw rydym wedi cyhoeddi dogfen Newid: Cefnogaeth bontio i sefydliadau sy'n cael arian refeniw.
Ceir rhagor o wybodaeth yn adran Adolygiad Buddsoddi ein gwefan.