Cyngor Celfyddydau Cymru | Ceisio am Arian

Ceisio am Arian

Gallwch nawr lawrlwytho a darllen ein Canllawiau Ariannu a gwneud cais am arian ar-lein.

Mae Grantiau’r Celfyddydau i Sefydliadau yn darparu cymorth amserol wedi’i dargedu i sefydliadau’r celfyddydau sydd â’u canolfan yng Nghymru ac sy’n gweithio’n bennaf yng Nghymru.

Rydym eisiau eu galluogi i gyflawni’u potensial artistig a chynnig profiadau creadigol o’r ansawdd uchaf posibl i bobl Cymru.

Fe allwn dderbyn ceisiadau gan sefydliadau y tu allan i Gymru, lle gallant argyhoeddi y bydd eu prosiect o fudd i artistiaid a chynulleidfaoedd yng Nghymru.

Grantiau Bychain

Mae’r grantiau hyn yn agored i geisiadau unrhyw bryd ac maent ar gyfer prosiectau sydd angen hyd at £5000 gennym. Cynigiwn:

  • Grant Bychain
  • Grantiau Bychain ar gyfer Ymchwil a Datblygu
  • Grant Bychain ar gyfer Hyfforddiant

Grantiau Mawrion

Mae Grantiau Sylweddol yn agored i geisiadau bedair gwaith y flwyddyn ac maent ar gyfer prosiectau sydd angen dros £5,000 o bunnau gennym. Cynigiwn:

  • Grant Mawrion
  • Grant Mawrion ar gyfer Hyfforddiant,
  • Grant Mawrion - Gwyliau
  • Grant Mawrion - Datblygu’r Diwydiant Cerddoriaeth
  • Grant Mawrion - Teithio Cenedlaethol (Hydref 2013 a Ionawr 2014 yn unig)
  • Grant Mawrion - Datblygu Cynyrchiadau Theatr a Dawns

Y dyddiadau cau ar gyfer 2013/14 yw:

  • Dydd Gwener 17 Mai 2013
  • Dydd Gwener 26 Gorffennaf 2013
  • Dydd Gwener 11 Hydref 2013
  • Dydd Gwener 24 Ionawr 2014

Rhaglen Cyfalaf y Loteri

Mae arian Cyfalaf y Loteri ar gael i geisio amdano ar unrhyw adeg. Ar gyfer prosiectau sydd angen mwy na £50,000 bydd angen cwblhau ffurflen Gofrestru Prosiect syml. Cynigiwn:

  • Pwrcasu offer
  • Ffurflen Cofrestru Prosiect
  • Prosiectau cyfalaf bach
  • Astudiaethau dichonoldeb

Eich cais

Dechrau ar eich cais Botwm: parhau gyda chais 175 px


Os ydych yn anabl neu os na allwch ddefnyddio cyfrifiadur, cysylltwch â ni. Fe wnawn ni weithio gyda chi i ddod o hyd i ffyrdd eraill i chi wneud cais sy’n fwy addas at eich anghenion penodol.


Cysylltu â ni

Gallwch gysylltu â ni mewn nifer o ffyrdd:

  • dros y ffôn 9am-5pm Llun - Gwener ar 0845 873 4900 – am bris galwadau lleol
  • drwy SMS - 07797800504 (Codir tâl am negeseuon yn ôl eich graddfa rhwydwaith safonol yn unig)
  • drwy’r e-bost at gwybodaeth@cyngorcelfyddydaucymru.org.uk

Lawrlwytho'r canllawiau

Elusen Gofrestredig Rhif 1034245