Adolygu portffolio Cyngor Celfyddydau Cymru o Gyrff a Gyllidir gan Refeniw.
Yr Adolygiad
Mae Cyngor Celfyddydau Cymru wedi adnabod 'portffolio' o sefydliadau sy'n cael cyllid refeniw a fydd yn ganolog i strategaeth Cyngor y Celfyddydau yn y dyfodol i ddatblygu'r celfyddydau yng Nghymru.
Er mwyn cyflawni'r nod hwn, rydym wedi cynnal adolygiad manwl o drefniadau cyllido cyfredol. Ein nod erbyn diwedd y broses yw bod â phortffolio o sefydliadau sy'n cael cyllid refeniw sy'n weithgar yn artistig, yn gadarn yn ariannol ac sy'n derbyn digon o fuddsoddiad i ffynnu.
Mae'r portffolio newydd hwn o sefydliadau sy'n cael cyllid refeniw yn weithredol er 1 Ebrill 2011.
Gwybodaeth Bwysig
Yn yr adran yma o'n gwefan gallwch ddarganfod mwy am gefndir yr Adolygiad, dogfennaeth bwysig yn ogystal â chanfod cymorth a chanllawiau cyfredol.
Dilynnwch y dolenni isod i gael rhagor o wybodaeth.
Cwestiynau Pellach
Os oes gennych gwestiwn ar unrhyw agwedd o'r Adolygiad Buddsoddi, cysylltwch â ni ac fe wnawn ni geisio'ch cynorthwyo. Gallwch ein e-bostio yn y cyfeiriad:
ymholiadadolygiadbuddsoddi@celfcymru.org.uk