Celfyddydau Cymru: yr hyn maent yn ei olygu i chi
Mae Cyngor Celfyddydau Cymru newydd gomisiynu arolwg mwyaf Cymru i gael gwybod barn pobl am y celfyddydau. Roeddem am wybod llawer gan gynnwys faint o bobl yng Nghymru a fynychai ddigwyddiadau celfyddydol neu'n cymryd rhan mewn gweithgareddau felly.
A newidiwyd y ffigyrau ers yr arolwg diwethaf bum mlynedd yn ôl? Beth oedd yn atal pobl rhag cymryd rhan? Pam roedd pobl yn cymryd rhan? A beth oedd barn y bobl amdanom ni, y Cyngor?
Nôl at ein hymchwil diweddaraf