Yn ystod 2004-05 comisiynodd Cyngor Celfyddydau Cymru arolwg mawr newydd o agweddau, presenoldeb a chyfranogiad yn y celfyddydau yng Nghymru. Cyfwelwyd â bron i 7,000 o bobl ar gyfer yr arolwg er mwyn darganfod:
- Pa fath o ddigwyddiadau celfyddydau maent yn eu mynychu.
- Pa weithgareddau celfyddydau maent yn cymryd rhan ynddynt.
- A ydynt yn gwrando ar neu’n gwylio’r celfyddydau ar CD, radio, teledu neu ar y rhyngrwyd.
- Eu barn am y celfyddydau.
Mae’r canlyniadau’n dangos bod y celfyddydau yn chwarae rôl hanfodol ym mywydau pobl yng Nghymru, gan wneud gwahaniaeth i unigolion ac i gymdeithas yn ei
chyfanrwydd. Mae’r darganfyddiadau hefyd yn dangos cefnogaeth gyhoeddus lethol dros ddefnyddio arian cyhoeddus i gefnogi’r celfyddydau.
Adroddiadau Arolygon yr Awdurdodau Lleol
Adroddiadau'r Arolwg o'r Ffurfiau ar Gelfyddyd
Nôl at ein hymchwil diweddaraf >>