Gadael gwaddol barhaus y tu hwnt i 2012.

Nid 2012 yn unig sydd dan sylw yma ond yr hyn a ddaw wedyn. Yr hyn a wna Cymru i ddathlu Diwylliant yng Ngemau Olympaidd a Pharalympaidd drwy Ddiwylliant 2012, gwna hi hefyd ar gyfer y dyfodol. Dyna fydd ein hetifeddiaeth. Mae Grym y Fflam yn dod â phrosiectau diwylliannol a threftadaeth at ei gilydd fel rhan o’r Olympiad Diwylliannol ac arddangosir eu gweithgareddau ledled Cymru dros y 12 mis nesaf.
Gellir dod o hyd i fanylion am y projectau yn yr is-dudalennau hyn.
Legacy Trust UK
Ariennir Grym y Fflam gan Legacy Trust UK, sy'n gadael etifeddiaeth o Gemau Olympaidd a Pharalympaidd Llundain 2012 drwy ariannu syniadau a thalent leol i feithrin creadigrwydd ledled Prydain.
Mae Grym y Fflam yn rhaglen gwerth £2.85 miliwn a ddefnyddia Gemau Llundain 2012 fel catalydd i ysbrydoli pobl ifanc i lwyddo hyd eithaf eu gallu yn eu dewis faes.