Cyngor Celfyddydau Cymru | Dylan Thomas 100

Dylan Thomas 100

Symffoni o Leisiau.

Noder: Mae dyddiad cau Cymal 1 wedi bod ac rydym bellach yn asesu'r ceisiadau.

Bydd unrhyw ddiweddariadau yn cael eu hychwanegu yma. Yn y cyfamser, gallwch ymweld â gwefan Dylan Thomas 100 yn www.dt100.info.

Dylan Thomas 1002014 yw canmlwyddiant geni Dylan Thomas yn Abertawe.

I ddathlu'r digwyddiad unigryw hwn, mae Llywodraeth Cymru, Cyngor Celfyddydau Cymru a phartneriaid awdurdodau lleol yn arwain dathliad o fywyd, gwaith a gwaddol Dylan Thomas.

Bydd y rhaglen o ddigwyddiadau - mawr a bach, rhyngwladol a lleol - yn pwysleisio'r cyfleoedd artistig, diwylliannol, addysgol a masnachol y gall dathliad unigryw o'r fath eu cynnig.

Rydym yn chwilio am weithgarwch sy'n ennyn brwdfrydedd pobl yng Nghymru a thu hwnt, gan ddod ag ymwelwyr newydd i Gymru a gadael gwaddol priodol ar gyfer y tymor hwy.

Os hoffech geisio i gael cymryd rhan yn rhaglen ddigwyddiadau Dylan Thomas 100, bydd y Pecyn Gwybodaeth Ariannu hwn yn esbonio’r hyn sydd angen i chi ei wneud, gan gynnwys sut i wirio bod eich sefydliad chi yn gwymwys i geisio.

logo pdf bachDT100 Pecyn gwybodaeth ariannu (Lawrlwytho fersiwn .pdf)

icon-ms-word-bachPecyn gwybodaeth ariannu (Lawrlwytho fersiwn .doc)


Cychwyn arni...

Cyn cyflwyno eich cynnig cychwynnol, byddem yn eich annog yn gryf i sicrhau eich bod yn gyfarwydd â'r weledigaeth a'r amcanion a bennwyd gennym ar gyfer Dylan Thomas 100.

Yn gynharach eleni gwnaethom gomisiynu Parthian (ar y Cyd â Tinderbox Arts Consultants) i ychwanegu sylwedd a ffurf i'r weledigaeth hon. Cewch hyd i grynodeb gweithredol o'i adroddiad drwy ddilyn www.dt100.info a chlicio ar: Adnoddau.

Dogfennau perthnasol

Elusen Gofrestredig Rhif 1034245