'Roedd CCC unwaith eto yn bartner yn Eisteddfod Genedlaethol 2008, yn cefnogi pafiliwn 'Y Lle Celf' a nifer o weithgareddau celfyddydol rhwng 2-9 o Awst 2008. Daeth dros 15,550 o ymwelwyr i'r Lle Celf eleni, er bod y tywydd yn ansefydlog!
'Roedd y Lle Celf yn arddangos y gwaith celf gorau o Gymru gyfan ac agorwyd y pafiliwn yn swyddogol ar ddydd Sadwrn, 2 Awst am 6.30pm gan yr artist arobryn, Iwan Bala, Yr Athro Dai Smith, Cadeirydd CCC, a'r Arglwydd Elis-Thomas.
Cyflwynodd yr Eisteddfod a CCC gyfle unigryw i ymwelwyr i'r Lle Celf weld gwaith oes yr artist Charles Byrd, wedi'i arddangos mewn un casgliad am y tro cyntaf erioed. Ganed Charles Byrd ym Mhontypridd yn 1916 ac mae wedi byw a gweithio yng Nghaerdydd am y rhan fwyaf o'i fywyd. Mae ei baentiadau manwl iawn yn dangos bywyd bob dydd yng Nghaerdydd, a bellach maent yn ddogfennau hanesyddol bwysig. Yn ystod y 1960au dechreuodd Charles Byrd, sydd bellach yn 91 oed ac mor brysur ag erioed, arbrofi gyda themāu haniaethol, ac yn ddiweddarach, creodd ddwsinau o beiriannau gan ddefnyddio amrywiaeth o ddeunyddiau, teganau ac offer; roedd llawer ohono yn bethau roedd wedi'u hailgylchu i greu llongau gofod anhygoel, chwyrligwganod swnllyd neu dyrau lliwgar.
Defnyddiodd CCC y thema hwn yn ei weithdai plant eleni. 'Roedd y gweithdai yn llwyddiannus iawn ac 'roedd y robotiaid a greodd y bobl ifanc yn ddychmygus iawn fel y gallwch weld wrth y lluniau. 'Roedd Charles Byrd hefyd wrth ei fodd gydag adwaith ymwelwyr i'w waith:
"'Roedd hi'n grźt gweld fy ngwaith yn cael ei arddangos yn yr Eisteddfod Genedlaethol eleni. 'Roeddwn yn arbennig o hapus i weld nifer o fy mheiriannau cinetig yn cael bywyd newydd. Hyfryd iawn oedd gweld nifer o fy narluniau cynnar unwaith eto ac 'roeddwn wrth fy modd gyda'r ymateb brwdfrydig wrth yr ymwelwyr i'r Lle Celf."
Bu i 435 o artistiaid a gwneuthurwyr gyflwyno gwaith celf eleni. Roedd gan y pum arbenigwr - Claire Curneen, Ivor Davies, Tessa Jackson, Nia Roberts a Sue Williams - y dasg aruthrol o ddewis gwaith celf ar gyfer yr arddangosfa: 150 darn o waith celf a chrefft gan 52 o artistiaid a gwneuthurwyr. Yr enillwyr oedd:
David Hastie: Y Fedal Aur am Gelfyddyd Gain
Suzie Horan: Y Fedal Aur am Grefft a Dylunio
Cymeradwywyd David Cushway a Bethan Ash
Anna Pritchard -Ysgoloriaeth Artist Ifanc
Purcell Miller Tritton - Y Fedal Aur am Bensaernļaeth
Smith Roberts- Plac Teilyngdod
Phillip Henshaw -Ysgoloriaeth Penaernļaeth
Aled Rhys - Gwobr Dewis y Bobl
'Roedd yna amrywiaeth o stondinau yn y Neuadd Arddangos yn ogystal gan Oriel Makers ac Artistiaid Bro Morgannwg, Suzie Horan a Alison Moger. Cefnogodd CCC stondin ...a chrefft yn ogystal, oedd yn arddangos gweithiau artistiaid ifanc o Gymru.
Gwnaeth Academi gynnal ei Sgwadiau Sgwennu i Bobl Ifanc yn y Lle Celf hefyd. Eleni, 'roedd y beirdd a'r rapwyr, Ed Holden ac Aneirin Karadog o 'Y Genod Droog' yn mentora'r bobl ifanc. Mae'r Sgwadiau Sgwennu yn cynrychioli nifer o'r talent disgleiria ymhlith ysgrifennwyr ifanc Cymru. 'Roedd eleni yn flwyddyn arbennig gan fod y sgwad wedi perfformio eu gwaith yn llwyddiannus o flaen dyrfa fawr yn y safle perfformio ar y maes.
Dywedodd James Turner, Prif Weithredwr Dros Dro CCC:
"Rydym yn hapus iawn fod y Lle Celf wedi denu cymaint o ymwelwyr i'r Eisteddfod Genedlaethol eleni a bod gwaith Charles Byrd hefyd wedi ennill cynulleidfa newydd a brwd. 'Roedd ein gweithdai "adeiladu eich robot eich hun" yn llwyddiant ysgubol gyda rhieni a phlant fel ei gilydd a nawr edrychwn ymlaen at Eisteddfod Genedlaethol y Bala yn 2009".
/Diwedd
Am wybodaeth am raglenni datblygu ac ariannu CCC, ewch i www.celfcymru.org.uk neu ffoniwch 029 2037 6500
Am fwy o wybodaeth am yr Eisteddfod Genedlaethol eleni, cliciwch ar: www.eisteddfod.org.uk/