Mewngofnodi i Gronfa Ddata'r Celfyddydau

Wedi anghofio eich manylion mewngofnodi? Ddim wedi cofrestru? Cliciwch yma i gofrestru am ddim.

Cyfleoedd

Dim swyddi gwag ar hyn o bryd.

Gweld yr holl gyfleoedd (19)

Adran y Wasg

Cyhoeddwyd enw Cyfarwyddwr artistig newydd National Theatre Wales heddiw

Dyddiad Rhyddhau: 28 Gorffennaf 2008

John E. McGrath John E. McGrath

John E. McGrath fydd Cyfarwyddwr Artistig newydd y cwmni theatr iaith Saesneg, sef National Theatre Wales (NTW).

Ganed John E. McGrath yn yr Wyddgrug, Gogledd Cymru ac fe'i magwyd yn Lerpwl. Ef yw Cyfarwyddwr Artistig a Phrif Weithredwr y Contact Theatr, Manceinion ar hyn o bryd, theatr sydd wedi ennill gwobrau lu ac sydd wedi sefydlu enw da yn rhyngwladol am greu gwaith newydd cyffrous, denu cynulleidfaoedd amrywiol ifanc a sicrhau cydweithio rhyngwladol.

Ymhlith rolau blaenorol John mae Cyfarwyddwr Artistig Theatre Venture yn Newham yn Llundain, a Chyfarwyddwr Cysylltiol y theatr enwog, Experimental Theatre Company, Mabou Mines yn Efrog Newydd.


Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi cefnogi'r cynigion ar gyfer datblygu NTW, a chyhoeddodd y Llywodraeth ym mis Hydref 2007 y byddai'n gwneud buddsoddiad sylweddol er mwyn sefydlu'r cwmni theatr newydd, fel rhan o ddarpariaeth well o Theatr Iaith Saesneg yng Nghymru. Yna rhoddwyd y cyfrifoldeb i Gyngor Celfyddydau Cymru weinyddu'r gwaith o ddatblygu NTW.

Ni fydd y cwmni newydd wedi'i leoli mewn adeilad, sy'n golygu y bydd yn rhydd i gomisiynu a chreu cynyrchiadau newydd. Bydd NTW yn gweithio'n agos gyda'r seilwaith theatrig sy'n bodoli yng Nghymru i greu cynyrchiadau proffil uchel a fydd yn symud y tu hwnt i ofod y theatr draddodiadol o bryd i'w gilydd.

Bydd John yn dechrau ei swydd newydd ym mis Ionawr 2009 ac mae'n falch iawn ar ei her newydd:
"Mae'r gwahoddiad i arwain NTW yn gyfle unwaith mewn oes. Mae'n gyfle i freuddwydio am yr hyn y gall y theatr ei wneud; rhannu trafodaethau â gwneuthurwyr theatr, cynulleidfaoedd a phoblogaeth ehangach Cymru; a chydweithio ag amrywiaeth eang o artist i greu gwaith newydd a hynod. Edrychaf ymlaen at ddechrau taith wirioneddol ddramatig!"

Croesawodd Phil George, Cadeirydd NTW, John i'w swydd newydd:
"Mae John yn wneuthurwr theatr cyffrous ac arloesol ar gyfer yr 21ain ganrif. Mae wedi creu argraff sylweddol ar gynulleidfaoedd gyda'i gwmni nodedig ym Manceinion. Mae ganddo hefyd gysylltiadau a phrofiad rhyngwladol gwych. Bydd yn arwain Theatr Genedlaethol a fydd yn syfrdanu, yn herio ac yn difyrru.

/Diwedd

Nodiadau i Olygyddion:
Am fwy o wybodaeth am John E.McGrath ac i drefnu cyfweliadau, cysylltwch â Joanna Davies, Uwch Swyddog y Wasg a'r Cyfryngau, Cyngor Celfyddydau Cymru

02920 376593/ 07817 291 512

Ymhlith y gwobrau y mae'r Contact Theatr wedi eu hennill mae Dyfarniad Breakthrough y Cyngor Celfyddydau ar gyfer Gwaith Arloesol yn y Celfyddydau, Dyfarniad Eclipse TMA ar gyfer Amrywiaeth Ddiwylliannol mewn Theatr, Dyfarniad Celf 04 am Gyflawniadau Eithriadol ym maes y Celfyddydau a Dyfarniad Arweinyddiaeth NESTA 2006. Am fwy o wybodaeth am Contact Theatre, Manceinion, cliciwch ar: www.contact-theatre.org/

Mwy o wybodaeth am John McGrath:

Cwblhaodd John E. McGrath ei ymchwil PhD mewn Astudiaethau Perfformio ym Mhrifysgol Efrog Newydd yn 1999. Dyfarnwyd gwobr 'Performance Studies Distinguished Dissertation Prize' ar gyfer ei PhD.

Astudiodd John E. McGrath Radd Meistr yn y Celfyddydau Cain a Chyfarwyddo Theatr ym Mhrifysgol Columbia, Efrog Newydd. Enillodd ei radd BA Anrh (Dosbarth 1af) mewn Saesneg Iaith a Llên ym Mhrifysgol Rhydychen.

John yw awdur 'Loving Big Brother: Performance, Privacy and Surveillance Space', Routledge, 2004. Mae'r llyfr hwn yn archwilio'r defnydd a wneir o dechnoleg goruchwyliaeth mewn diwylliant poblogaidd, y celfyddydau gweledol, y cyfryngau a pherfformio.

Ef yw sylfaenydd a Chadeirydd PANDA (Performing Arts Network and Development Agency) sy'n rhoi cymorth busnes, datblygu a rhwydweithio i gwmnïau annibynnol ac unigolion y celfyddydau perfformio yn ardal Manceinion.

Mae John hefyd yn Ymgynghorydd i Gyngor Celfyddydau Lloegr a'r Cyngor Prydeinig.

 

Cyswllt â'r Cyfryngau

Joanna Davies
Uwch Swyddog y Wasg a'r Cyfryngau
Ffôn 07817 291512 / 02920 376593
Nôl i'r Rhestr Newyddion