Bydd Ffotogallery, yr asiantaeth ddatblygu genedlaethol ar gyfer ffotograffiaeth yng Nghymru, yn rhyddhau llyfr newydd er mwyn dathlu ei rhaglen addysg genedlaethol arloesol yn ystod y 10 mlynedd diwethaf.
Caiff 'Make Light Work' ei lansio'n swyddogol gan y Gweinidog dros Addysg ddydd Mawrth 17eg Mehefin yn Amgueddfa Genedlaethol Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, ac mae'n un o blith nifer o brosiectau arloesol a gynhaliwyd gan adran Addysg y sefydliad sydd wedi ennill gwobrau.
Mae 'Make Light Work' yn rhan annatod o ddathliadau Ffotogallery yn dair ar ddeg oed, a'r nod yw codi ymwybyddiaeth o bwysigrwydd cynyddol addysg oriel, nid yn unig o ran codi ymwybyddiaeth pobl o'r Celfyddydau, ond ymgorffori syniadau newydd ac arferion cyfryngau newydd ac arloesol o fewn y cwricwlwm craidd, gan feithrin datblygiad personol, dysgu galwedigaethol a gydol oes.
Dywedodd Rhodri Glyn Thomas AC, Y Gweinidog dros Dreftadaeth:
"Bu Ffotogallery yn gyfrifol am waith arloesol ac eithriadol yn ystod y 30 mlynedd diwethaf. Maent wedi adlewyrchu ysbryd y genedl, drwy lens y camera, yn ystod y cyfnod hwnnw drwy ymateb i bryderon pobl a digwyddiadau ym mywyd Cymru. Hoffwn ei llongyfarch ar gyrraedd ei phen-blwydd yn 30 oed."
Mae'r cyhoeddiad yn amlygu casgliad o 10 prosiect a gynhaliwyd yn y gorffennol gan Addysg Ffotogallery - mae rhai ohonynt wedi denu gwobrau cenedlaethol yn cynnwys Gwobr Artist Ifanc y Flwyddyn Artworks - ac maent yn cynrychioli ciplun o'r amrywiaeth eang o weithgareddau y mae Ffotogallery yn eu trefnu i ymgysylltu ysgolion, colegau, partneriaid sector a chymunedau ledled Cymru â'r celfyddydau. Mae hefyd yn cynnwys testunau gan weithwyr arbenigol ym maes y celfyddydau gweledol ac addysg, yn cynnwys Mike Tooby, Cyfarwyddwr Dysgu a Rhaglenni, Amgueddfa Genedlaethol Cymru, Jane Sillis, Cyfarwyddwr Engage, ac addysgwr celfyddydau arloesol, Nigel Meager.
Dywedodd y Gweinidog dros Blant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau, Jane Hutt: "Mae hwn yn gyfle gwych i ddangos y cyfraniad gwerthfawr y mae Ffotogallery wedi'i wneud o ran ymgysylltu pobl â'r celfyddydau ac addysg yn ystod y degawd diwethaf. Mae ei phrosiectau sydd wedi ennill gwobrau wedi ymgysylltu ag ysgolion, colegau a chymunedau i feithrin diddordeb yn y celfyddydau, diwylliant a dysgu gydol oes yng Nghymru."
Caiff y cyhoeddiad ei gefnogi gan Wobr Chrisi Bailey, Gwobr Genedlaethol Cyfryngau'r Celfyddydau i Blant, a gyflwynwyd i Addysg Ffotogallery yn 2006 am y prosiect Gwarchodfa Natur Rithwir, sef prosiect gwyddoniaeth creadigol a gynhaliwyd ar y cyd â disgyblion Ysgol Gynradd Bryn Deri, Ysgol Gynradd Tongwynlais a'r cwmni rhyngwladol, GE Healthcare sydd wedi'i leoli yng Nghaerdydd.
Mae Lisa Edgar, Rheolwr Addysg Ffotogallery, yn esbonio pwysigrwydd y cyhoeddiad:
"Rydym yn falch iawn o gael y cyfle i ddathlu pen-blwydd Ffotogallery yn 30 oed, a dathlu dylanwad ochrol ei Raglen Addysg. Nod Ffotogallery yw ymgysylltu â phobl o bob oedran a gallu, gyda dealltwriaeth ymarferol o gelfyddydau'r cyfryngau newydd a chan ddefnyddio lens, a thrwy gyhoeddi'r gwaith hwn, rydym yn gobeithio dangos yr effaith gadarnhaol y mae'r sefydliad wedi'i gael ar lywio a bywiogi diwylliant gweledol yng Nghymru"
Cynhelir yr achlysur lansio arbennig ar gyfer llyfr 'Make Light Work' Ffotogallery yn Amgueddfa Genedlaethol Cymru ddydd Mawrth 17eg Mehefin rhwng 5.30pm-8pm. Bydd y digwyddiad yn cynnwys arddangosfa o gyfryngau rhyngweithiol a fydd yn rhoi'r cyfle i bobl archwilio i brosiectau addysg a chyflwyno gwefan newydd Ffotogallery a fydd yn cael ei lansio'r haf hwn fel rhan o ddathliadau Ffotogallery yn 30 oed.
Mae Ffotogallery yn gwmni/elusen gofrestredig wedi'i chyfyngu drwy warant ac mae'n cael cymhorthdal blynyddol gan Gyngor Celfyddydau Cymru a Chyngor Dinas a Sir Caerdydd.
/Diwedd
Nodiadau i Olygyddion:
I gael mwy o wybodaeth , cysylltwch â Sian Harries, Swyddog Hyrwyddo ac Oriel Ffotogallery ar 02920 708 870
neu 02920 341 667 neu anfonwch neges e-bost at info@ffotogallery.org.