Mis Mehefin eleni mae Theatr Genedlaethol yr Alban yn ymweld â’r Sherman gyda’u stori hynod ryfeddol am gwpwl sydd bron â thorri eu boliau eisiau cael plant.
Ffrwyth dychymyg gwyrdroëdig rhyfeddol y gwneuthurwr ffilm o Tsiecoslofacia Jan Švankmajer yw Little Otik, lle mae'n cyfuno hiwmor tywyll ac arswyd swreal mewn stori frawychus am gariad teuluol.
Yn Little Otik ceir stori cwpwl nad ydynt yn medru cael plant. Un diwrnod, wrth balu yn yr ardd, mae'r gŵr yn codi bonyn coeden ac yn ei gerfio i siâp babi. Wedi ei gyflwyno i'w wraig mae hi'n dechrau credu fod yma fabi go iawn, ac yn raddol bach mae ei hobsesiwn yn achosi i'r pren ddod yn fyw. Wrth i amser fynd heibio mae'r babi pren - Otik - yn datblygu'i fywyd ei hun ac mae ei archwaeth am fwyd yn ddi-ben-draw. Mae'n bwyta pawb a phopeth mae'n ei weld - gan gynnwys y gath a'r postmon.
Seiliwyd Little Otik ar ffilm a ryddhawyd yn 2000 gan Jan Svankmajer, a seiliwyd yn ei thro ar chwedl Ewropeaidd. Dyma'r tro cyntaf i waith Jan Svankmajer gael ei addasu ar gyfer y llwyfan, ac yn y cynhyrchiad ceir cynllun set arloesol a bydd effeithiau arbenigol taflunio ac animeiddio yn cael eu defnyddio.
Mae Little Otik yn gyd-gynhyrchiad rhwng Theatr Genedlaethol yr Alban ac un o gwmnïau teithio mwyaf arloesol yr Alban, Vanishing Point. Cyfarwyddwr y cynhyrchiad yw Matthew Lenton, Cyfarwyddwr Artistig Vanishing Point.
Ers ei lansiad yn 2006 mae Theatr Genedlaethol yr Alban wedi cyflwyno mwy na 50 o gynyrchiadau. Gan nad oes gan y cwmni ei adeilad ei hun dangosir y gwaith nid yn unig mewn theatrau, ond mewn amryw o leoliadau anarferol fel meysydd awyr, mewn bloc o fflatiau, ar fferi ac mewn coedwigoedd.
Gwelir Little Otik yn y Sherman ar 18 - 21 Mehefin 7.30pm. Mae tocynnau'n £16 (Gostyngiadau £14, O dan 19 oed £8) a gellir eu harchebu o Swyddfa Docynnau'r Sherman ar 029 2064 6900 neu ar-lein ar www.shermancymru.co.uk
Cefnogwyd Sherman Cymru gan Gyngor Celfyddydau Cymru.
Diwedd
Am ragor o wybodaeth, delweddau/lluniau neu i drefnu cyfweliadau, cysylltwch â Jenny Boyatt, Swyddog Marchnata a Chyfryngau Sherman Cymru ar 029 2064 6966 neu ar jenny.boyatt@shermancymru.co.uk