Mae drama newydd un o enillwyr Dyfarniadau Cymru Greadigol 2008, Kaite O'Reilly, a ellid ei gweld yn Sherman Cymru, 'The Almond and the Seahorse' wedi ennyn adolygiadau arbennig wrth y wasg cenedlaethol.
Mae 'The Almond and the Seahorse' yn ddrama deimladwy ac emosiynol am oroeswyr niwed trawmatig i'r amennydd (TBI) a'i ddylanwad ar eu bywydau pob dydd a'u perthynas gyda'i gilydd. Mae dau gwpwl yn darganfod eu hunain mewn sefyllfa lle mae colli'r cof yn effeithio arnynt wrth i un ohonynt droi'n glaf a'r llall droi'n ofalwr.
Mae Gwennan yn cael damwain car ac nid yw'n adnabod ei gŵr, Tom, na'i hun yn y drych. Ar ôl iddi gael llawdriniaeth ar diwmor yr amennydd, mae cof Joe yn raddol ddiflannu ac mae ei bartner, Sarah, yn dyheu am yr hen Joe.
Mae Kaite, sy'n ddramodydd arobryn ac uchel ei pharch ar faterion yr anabl, wedi ymchwilio'r testun hwn yn drwyadl tra'n ysgrifennu'r ddrama:
"Gyda 'The Almond and the Seahorse', dwi'n trio caniatau i'r gynulleidfa i weld o berspectif yr unigolyn sydd wedi cael ei effeithio (oherwydd yr anaf i'r amennydd), yn ogystal â safbwynt y cariad neu'r priod. Mae'r ddrama yn cynrychioli'r ddau berspectif - yr anabl a'r iach -yn dangos bywydau pobl heb labelu'n feddygol. Pobl yw pobl. Dwi eisiau archwilio pobl cyffredin mewn amgylchiadau anghyffredin".
Nododd adolygiad The Guardian:
"These extraordinary scenarios are tenderly drawn and powerfully realised in Phillip Zarrilli's beautifully judged production. Fiona Watt's set shows past, present and future colliding - as it does for the couples - and the performances are uniformly affecting. The couples' lives alter irrevocably as we watch, and this is not a play with any sunny, easy resolution.
"That is what makes our lives: memory," says Sarah. This unmissable drama - which promises much for the future of new writing company Sherman Cymru - confronts the uncomfortable reality of what happens to life, and even the most patient love, without it".
Mae gan Kaite reswm arall i ddathlu, gan mai hi yw un o enillwyr un o brif Ddyfarniadau Cymru Greadigol 2008 Cyngor Celfyddydau Cymru am Ddrama. Yn ei phrosiect Cymru Greadigol, mae Kaite yn bwriadu creu hanes llafar o brofiadau unigolion amrywiol sy'n anabl yng Nghymru, ac ysgrifennu casgliad o fonologau. Bydd y Dyfarniad yn helpu Kaite, sy'n uniaethu gyda nhw fel artist anabledd, i greu ffynhonnell theatrig newydd, yn arbennig i berfformwyr anabl.
Ar hyn o bryd, mae Kaite yn cwblhau ei nofel gyntaf ar fwrsariaeth o'r Academi. Ceir mwy o wybodaeth am ei gwaith ar: www.kaiteoreilly.com
Gellid weld 'The Almond and the Seahorse' yn Sherman Cymru, Caerdydd tan 15 Mawrth 2008. Am fwy o wybodaeth ewch ar: www.shermancymru.co.uk/
/Diwedd