Mewngofnodi i Gronfa Ddata'r Celfyddydau

Wedi anghofio eich manylion mewngofnodi? Ddim wedi cofrestru? Cliciwch yma i gofrestru am ddim.

Cyfleoedd

Dim swyddi gwag ar hyn o bryd.

Gweld yr holl gyfleoedd (19)

Adran y Wasg

Dathlu Llenyddiaeth yng Nghymru yng Ngŵyl Guardian y Gelli 2009

Dyddiad Rhyddhau: 15 Mai 2009

Scott Quinnell Scott Quinnell

Bydd Llenyddiaeth Cymru yn taro deuddeg unwaith eto yn y Gelli. Bydd y chwaraewr rygbi, Scott Quinnell, yn cyflwyno ei lyfr o'r gyfres Darllen Sydyn, Louise Walsh yn siarad am ferched yn paffio, Owen Martell yn darlunio byd Cymry America fel ag y mae a bydd James Hawes yn atgyfodi Kafka, gan ddangos beth rydyn ni wedi bod yn ei golli.

Dyma ychydig yn unig o'r digwyddiadau cyffrous sy'n cael eu cynnal ar stondin 'Llenyddiaeth yng Nghymru' eleni yng Ngŵyl Guardian y Gelli, 21-31 Mai 2009.

Ddydd Mercher, 27 Mai, bydd y cyn-chwaraewr rygbi enwog Scott Quinnell yn siarad am yr hyn a'i ysbrydolodd i sgrifennu'i lyfr darllen sydyn The Hardest Test (Accent Press, 2008). Bydd cyfle hefyd i gwrdd â'r storïwr o fri rhynglwadol ac enillydd gwobr Tir na n-Og, Daniel Morden, a fydd yn cynrychioli Cymru yn y Smithsonian Folklife Festival yn Washington yn ddiweddarach eleni.

Bydd enillwyr dyfarniadau llên Cymru Greadigol Cyngor Celfyddydau Cymru 2009, Owen Martell a Jon Gower, yn cyflwyno'u prosiectau diweddaraf. Yma hefyd y bydd enillydd Cymru Greadigol 2007, y nofelydd, James Hawes, yn trafod Why You Should Read Kafka Before You Waste Your Life (St Martin's Press, 2008).

Bydd llenorion newydd yn ymddangos ar y stondin hefyd. Bydd Meirion Jordan yn trafod ei flodeugerdd ryfeddol gyntaf o farddoniaeth, Moonrise, (Seren 2008) a bydd Louise Walsh yn siarad am ei nofel sydd wedi'i gosod ym myd paffio i ferched, Fighting Pretty (Seren 2008). Bydd gwasg Honno yn cyflwyno Caroline Ross a gyhoeddodd ei nofel gyntaf The War Before Mine yn 2008. Bydd Lorraine Jenkin, sydd wedi ysgrifennu i'r Guardian a'r Times, yn ymuno â hi. Yn dilyn ei blog enwog Chocolate Mousse and Two Spoons (Honno, 2008), bydd Lorraine yn cyhoeddi Eating Blackbirds cyn hir.

Bydd yr awdur Michael O'Brien yn arwyddo copïau o The Death of Justice (Y Lolfa, 2008), cofnod di-flewyn ar dafod o'r un mlynedd ar ddeg a dreuliodd yn y carchar am drosedd na wnaeth ei chyflawni.

Bydd yr awdur a'r llenor arobryn, Mererid Hopwood, yn siarad am weithdy Celfyddydau Rhyngwladol Cymru/y Cyngor Prydeinig yn Jaipur, India a'r gweithdy ysgolion a gynhaliodd wedi hynny yn India a Chymru. Bydd Bardd Cenedlaethol Cymru, Gillian Clarke, ac enillydd dyfarniad Cymru Greadigol yn 2008, Menna Elfyn, yn datgelu enw enillydd cystadleuaeth newydd 'Troi a Throsi' Tŷ Cyfieithu Cymru.

Bydd y bardd perfformio a Bardd Plant 2008-09, Ifor ap Glyn a Gwyneth Glyn, Bardd Plant 2006-07, yn cwrdd ac yn gweithio gydag aelodau Sgwadiau Sgwennu'r Ifainc yr Academi.

Bydd cyfle hefyd i brynu amrywiaeth eang o lyfrau gwych o'r gyfres boblogaidd Library of Wales sy'n cynnwys y clasuron, y gwaith diweddaraf i blant a gweithiau gan awduron cyfoes Cymru. Ac ar 25 Mai, caiff rhestr fer Llyfr y Flwyddyn 2009 ei chyhoeddi.

Menter ar y cyd yw stondin Llenyddiaeth yng Nghymru rhwng Llywodraeth y Cynulliad, Cyngor Celfyddydau Cymru, Academi, Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Celfyddydau Rhyngwladol Cymru a Chyngor Llyfrau Cymru. Nod y bartneriaeth yw hyrwyddo llenyddiaeth a llenorion Cymru i gynulleidfaoedd yng ngwledydd eraill Prydain a ledled y byd.

Mae'r Gweinidog Treftadaeth, Alun Ffred Jones Ac, yn falch o gael cefnogi stondin Llenyddiaeth yng Nghymru:

"Mae llygaid llên y byd yn troi i gyfeiriad Cymru yn ystod Gŵyl y Gelli. Mae'n gyfle gwych felly i ddangos iddyn nhw yr hyn sydd gennym i'w gynnig. Mae'r digwyddiadau fydd yn cael eu cynnal ar stondin Llenyddiaeth yng Nghymru yn dangos amrywiaeth a chyfoeth y talentau sydd gan Gymru i'w cynnig. Rwy'n hyderus y bydd yr ŵyl yn ysbrydoli llengarwyr o Gymru a thu hwnt unwaith eto eleni."

Meddai Prif Swyddog Gweithredol yr Academi, Peter Finch:

"Mae sgwennu yng Nghymru wedi dod i oed. Mae gan ein llenorion y doniau i wefreiddio. Dewch i gwrdd â nhw i yn y Gelli. Dyma gyfle heb ei ail."

Ychwanegodd Dai Smith, Cadeirydd Cyngor Celfyddydau Cymru:

"Mae'n wych cael gweithio gyda'n gilydd unwaith eto i gynnal amrywiaeth eang o ddigwyddiadau cyffrous ar stondin Llenyddiaeth yng Nghymru yng Ngŵyl y Gelli eleni. Mae'r ŵyl yn llwyfan ardderchog ryngwladol o lenyddiaeth o safon byd. A bydd Cymru, gyda'i thorreth o dalentau, yn disgleirio unwaith eto arni".

/Diwedd

Am fwy o wybodaeth am raglen Llenyddiaeth yng Nghymru, cliciwch ar y ddolen, 'Gelli 2009' isod.

Am raglen lawn o holl weithgareddau'r Gelli ewch ar: www.hayfestival.com/

Am wybodaeth y Wasg a'r Cyfryngau am stondin Llenyddiaeth yng Nghymru, cysylltwch â
Bob Mole, Rhaglennydd Stondin Llenyddiaeth yng Nghymru -02920472266.

Academi: www.academi.org/
Cyngor Celfyddydau Cymru: www.celfcymru.org/
Llyfrgell Genedlaethol Cymru: www.llgc.org.uk/
Cyngor Llyfrau Cymru: www.wbc.org.uk
Celfyddydau Rhyngwladol Cymru: www.wai.org.uk/

Dolenni Cyswllt Perthnasol

Nôl i'r Rhestr Newyddion