Mewngofnodi i Gronfa Ddata'r Celfyddydau

Wedi anghofio eich manylion mewngofnodi? Ddim wedi cofrestru? Cliciwch yma i gofrestru am ddim.

Cyfleoedd

Dim swyddi gwag ar hyn o bryd.

Gweld yr holl gyfleoedd (19)

Adran y Wasg

Canolfan Grefft Rhuthun yn cyflwyno tair arddangosfa newydd sylweddol

Dyddiad Rhyddhau: 24 Hydref 2008

Darn gan Claire Curneen Darn gan Claire Curneen

Mae Canolfan Grefft Rhuthun yn hapus iawn i gylwyno tair arddangosfa newydd o bwys yn ei galerïau newydd; 'Codi'r Bar' a gwaith newydd gan gyn-enillwyr Dyfarniadau Cymru Greadigol; Claire Cureen a Pamela Rawnsley.

Yn ystod y blynyddoedd diwethaf y mae maes arian a gwaith metel cyfoes wedi cael tipyn o sylw yn yr Alban a gweddill y DU. Ysbrydolwyd nifer o arddangosfeydd a chomisiynau pwysig o ganlyniad i nod-amgen arbennig y Mileniwm. Yr oedd y rhain yn cynnwys Trysorau'r 20fed Ganrif (Urdd yr Eurychiaid, Llundain) a chomisiwn arian i Bute House (Urdd Eurychiaid Dinas Caeredin) a lwyddodd i dynnu sylw at waith cyfoes. Llwyddwyd i amlygu gwaith arloesol rhai o weithdai bach yr Alban gan 100% Proof, dwy arddangosfa a guradwyd gan yr Athro Dorothy Hogg a fu ar daith yn UDA yn ogystal ag yn Oriel yr Alban yng
Nghaeredin.

Yr oedd Gwobr Gelf Jerwood: Metel (2005) yn dangos yn glir pa mor rymus yw twf gwaith metel arloesol yn y DU. Yn y cyfamser y mae presenoldeb orielau Prydeinig ac Ewropeaidd sydd yn dangos gwaith metel uchelgeisiol o bob rhan o'r byd yn Collect, y ffair flynyddol o wrthrychau cyfoes a gynhelir yn Amgueddfa'r V&A yn Llundain (a'i threfnu gan y Cyngor Crefftau, Llundain) wedi gosod y cyfan mewn cyd-destun rhyngwladol.

Y mae yna nifer o grefftwyr o safon ryngwladol wedi gwneud cyfraniad sylweddol i'r gweithgaredd diweddar hwn. Y mae eu gwaith dros nifer o ddegawdau wedi cael dylanwad ar ansawdd y maes heddiw. Y mae Codi'r Bar yn dod â gwaith 12 o unigolion o bedwar ban byd at ei gilydd.

Y mae Codi'r Bar yn dathlu doniau 12 o grefftwyr. Er bod gan bob un ddull gwahanol o weithio y mae ganddynt welediad croyw, cyffyrddiad cain ac ymroddiad llwyr tuag at greu gwaith addurnol cyfoes mewn metel.

Y mae pob un wedi ei wreiddio yn ddwfn yn nhraddodiad hanesyddol gwaith metel yn y cartref ac eto y maent oll yn arloesi. Maent yn unol yn eu cyffyrddiad cywrain wrth iddynt deithio drwy dirwedd y byd celfyddydol o fewn eu traddodiadau diwylliannol eu hunain.Y mae pob un wedi defnyddio traddodiad fel man cychwyn i greu gwaith sydd yn arddangos gwaith newydd cyffrous a dull newydd o feddwl drwy gyfrwng metel.

Yr arddangoswyr yw:- Malcolm Appleby, (Yr Alban); Julie Blyfield, (Awstralia); Rudolf Bott, (Yr Almaen); Kim Buck, (Denmarc); Robert Foster,.(Awstralia); Mimlitsch Gray, (UDA); Koji Hatakeyama, (Siapan), Yasuki Hiramatsu, (Siapan) David Huycke, (Belg); Michael Rowe (Lloegr);Tore Svensson (Sweden); Simone ten Hompel (Lloegr). Y mae'r arddangosfa hon yn cael ei chynnal drwy bartneriaeth IC:Innovative Craft a Chanolfan Grefft Rhuthun.

Enillodd y Ganolfan Arian Loteri Cyfalaf o £3.15 miliwn yn ddiweddar gan Gyngor Celfydyddau Cymru, y grant mwyaf o'i fath yng Ngorllewin Cymru, tuag at ei ail-adnewyddu sylweddol. Bydd y ganolfan yn ogystal yn croesawu dau enillydd Dyfarniadau Cymru Greadigol, fydd yn arddangos eu gwaith newydd; y Cerflunydd Cermaeg, Claire Curneen a'r Gemydd a Gweithwraig Arian, Pamella Rawnsley.

Mae arddangosfa Claire yn cynrychioli'r gwaith a wnaeth o ganlyniad i'w Dyfarniad Cymru Greadigol. Mae'r ffigyrau llonydd a'r teitlau i'w gwaith yn dangos fod eiconeg Cristnogol yn dal i chwarae rhan blaenllaw yn eu gwaith. Ac eto y mae eu gorffeniad gweadol, sydd mor ganolog i'w gwneuthuriad ynghyd â'r egni cyntefig sydd yn byrlymu drwyddynt, yn eu cysylltu gydag eiconau mwy ysbrydol ac angerddol a hynafol. Y mae'r ffigurau a wnaed o flodau'n ymestyn ymhellach ein perthynas a'n hymchwil i bethau mwyaf cyfriniol dynoliaeth ac yn ein hatgoffa o chwedl 'Blodeuwedd' yn y Mabinogi.

Mae Canolfan Grefft Rhuthun hefyd yn hapus iawn i groesawu'r Gemydd a'r Gwneuthurwaig Arian o fri, Pamela Rawnsley i'r galeri. Mae ei gwaith newydd hithau hefyd yn ganlyniad i'w Dyfarniad Cymru Greadigol wrth Gyngor Celfyddydau Cymru. Mae'r gwrthrychau yn ei harddangosfa yn gasgliad o geriach a gemwaith ag ysbrydolwyd gan Fannau Brycheiniog, y tirwedd garw a phrydferth lle mae ei chartref. Nid yw Pamela yn efelychu ei hamgylchedd, mae'n defnyddio lliwiau'r tirwedd fel man cychwyn -i'w hysbrydoli ymhellach.


/Diwedd

Gallwch weld yr arddangosfeydd hyn yn y Ganolfan o Ddydd Sadwrn, Hydref 25 2008. Ewch ar y wefan: www.ruthincraftcentre.org.uk am fwy o wybodaeth.
Am fwy o wybodaeth am Ddyfarniadau Cymru Greadigol ewch ar wefan Cyngor Celfyddydau Cymru: www.artswales.org/

 

Cyswllt â'r Cyfryngau

Joanna Davies
Uwch Swyddog y Wasg a'r Cyfryngau
Ffôn 07817 291512 / 02920 376593
Nôl i'r Rhestr Newyddion