Mewngofnodi i Gronfa Ddata'r Celfyddydau

Wedi anghofio eich manylion mewngofnodi? Ddim wedi cofrestru? Cliciwch yma i gofrestru am ddim.

Cyfleoedd

Dim swyddi gwag ar hyn o bryd.

Gweld yr holl gyfleoedd (19)

Adran y Wasg

Dyfarniadau Amrywiaeth Cymru 2008 a Mis Hanes Pobl Dduon yn dod yn fuan

Dyddiad Rhyddhau: 24 Hydref 2008

Azur &Asmar, un o'r  ffilmiau fydd yn cael ei dangos adeg  'Mis Hanes Pobl Dduon' Azur &Asmar, un o'r ffilmiau fydd yn cael ei dangos adeg 'Mis Hanes Pobl Dduon'

Mae Cyngor Celfyddydau Cymru yn hapus i gefnogi Dyfarniadau Amrywiaeth Cymru 2008 a Mis Hanes Pobl Dduon yng Nghymru yr Hydref hwn.

Eleni mae Dyfarniadau Amrywiaeth Cymru 2008 yn cael eu cynnal ar Nos Wener, 31 o Hydref yn Neuadd Sir Caerdydd yng Nglanfa'r Iwerydd, Caerdydd. Mae'r Rhwydwaith Sector Gwirfoddol i Bobol Croenddu Cymru, (BSNVW), yn trefnu'r digwyddiad i hyrwyddo ymarfer da ac i annog ffyrdd newydd o ddarparu gwasanaethau sy'n adnabod amrywiaeth hiliol.

Mae'r dyfarniadau hefyd yn helpu sicrhau cydweithrediad a phartneriaeth rhwng sefydliadau sy'n gweithio tuag at y nod hwn. Bydd y beirniaid yn edrych am brosiectau sy'n dangos tystiolaeth o ymrwymiad cymunedol, amcanion clir a chyfraniad darparwyr gwasanaeth yn nyluniad a gweithrediad y prosiect.

Ar Dachwedd 1 2008, mae Mis Hanes Pobl Dduon yng Nghymru yn dechrau gyda digwyddiad rhad ac am ddim yng Nghanolfan Channel View, Grangetown, Caerdydd. Bydd yna stondinau yn cynnwys bwydydd blasus o'r Affrig y Carabi ac Arabia amser cinio. A bydd amrywiaeth o berfformiadau, ffilmiau, arddangosfeydd, celf a chrefft a gweithdai amrywiol i blant ac oedolion.

Mae'r digwyddiad yn lansio gyda seremoni ddawns Affricanaidd am 11.15am gyda chyfraniadau gan Judith Woodman Is-Arweinydd Cyngor Caerdydd, Leanne Wood, Aelod Seneddol i Ganol De Cymru a David Alston, Cyfarwyddwr Celf, Cyngor Celfyddydau Cymru. Bydd Linda Mitchell, cyn Bennaeth Amrywiaeth i BBC Cymru yn llywydd i'r digwyddiad a bydd gwestai arbennig megis Nigel Walker a Steve Robinson yn cymryd rhan. Ceir rhaglen lawn o'r digwyddiadau yn y derbynfa ar y dydd.

Bwriad y rhaglen yw i bortreadu cymaint o agweddau o etifeddiaeth diwylliannol y croenddu yng Nghymru a thrwy'r Diaspora Affricanaidd mewn ffordd adlonianol ac addysgiadol. Bydd y gynulleidfaoedd yn cynrychioli nifer o ddiwylliannau gwahanol ac mae yna groeso cynnes i bawb i fynychu'r digwyddiadau.

/Diwedd

Nodiadau i Olygyddion:

Am fwy o wybodaeth, ewch ar y wefan: www.bvsnw.org.uk neu cysylltwch â'r Swyddog Gwybodaeth, Michael Flynn ar: 029 2045 0068

Cyswllt â'r Cyfryngau

Joanna Davies
Uwch Swyddog y Wasg a'r Cyfryngau
Ffôn 07817 291512 / 02920 376593
Nôl i'r Rhestr Newyddion