Ar 24 Gorffennaf 2008, cyhoeddodd Cyngor Celfyddydau Cymru (CCC) y byddai 22 o sefydliadau celfyddydol yng Nghymru yn cael Dyfarniadau newydd Cwmnïau Disglair.
Fis Tachwedd diwethaf, clustnododd Llywodraeth Cynulliad Cymru £4.5m ychwanegol i greu cronfa, y byddai CCC yn ei defnyddio yn ystod y tair blynedd nesaf i wobrwyo cwmnïau neu unigolion Disglair ym maes y celfyddydau sy'n dangos rhagoriaeth ac arloesedd yn eu maes. Mae cyfnod y Dyfarniad yn cwmpasu dwy flynedd, (2008-10), a chyfanswm yr adnodd ar gyfer gwaith y cwmnïau hyn fydd £2.9m.
Mae'r rhai y dyfarnwyd Dyfarniad Cwmni Disglair iddynt wedi dechrau gweithio ar eu prosiectau eisoes, sy'n amrywio o brosiectau celfyddydau cymunedol arloesol, i ddarparu cyfleoedd i bobl ifanc, comisiynau artistiaid a mynd â gwaith ar daith ledled y byd.
Dyfarnwyd £160,000 i Academi, yr Asiantaeth Genedlaethol er Hyrwyddo Llenyddiaeth, ar gyfer y cyfnod o ddwy flynedd, er mwyn iddi ddatblygu ei rhaglen genedlaethol ardderchog, Sgwadiau Sgwennu, er mwyn cynnwys hyd yn oed mwy o ysgrifenwyr ifanc talentog ledled Cymru, yn cynnwys y rhai nad yw'r Gymraeg na'r Saesneg yn iaith gyntaf iddynt, mewn partneriaeth ag awdurdodau lleol. Bydd arian y dyfarniad hefyd yn cael ei ddefnyddio i ddatblygu'r fenter lwyddiannus, Bardd Cenedlaethol.
Dyfarnwyd £110,000 i TAN dance dawns TAN, cwmni dawns arloesol yng Nghastell-nedd Port Talbot ac Abertawe, ar gyfer y ddwy flynedd, a byddant yn dod â choreograffwyr rhyngwladol i weithio yn eu cymunedau, gan greu cyfleoedd gwaith i artistiaid sy'n gweithio yng Nghymru, a gwella'u gwybodaeth a'u sgiliau. Mae TAN yn adnabyddus am ei waith arloesol ym maes dawns i ddynion, a bydd ei gwmni 'Dynion' bellach yn gallu creu gwaith newydd gyda choreograffwyr gwadd o safon uchel, a mynd a'u gwaith ar daith ledled Cymru. Bydd 'Dynion' hefyd yn gallu ymgymryd â rhaglen ddatblygu er mwyn galluogi mwy o ddynion ifanc i gymryd rhan ym maes dawns.
Dywedodd Carol Brown, Cyfarwyddwr dawns TAN:
"Mae ein Cwmni Dawns cynhwysol, 'Take This' wedi gweithio'n llwyddiannus gyda dawnswyr anabl ers ei fodolaeth 12 mlynedd yn ôl, ac yn sgîl derbyn Dyfarniad Cwmni Disglair, gall ddod o hyd i bartner rhyngwladol er mwyn cyfnewid diwylliant ac arfer".
Bydd Oriel Mostyn yn Llandudno, y mae gwaith adnewyddu sylweddol yn mynd rhagddo wedi'i ariannu gan grant Loteri Cyfalaf CCC ar hyn o bryd, yn defnyddio'i Ddyfarniad Cwmni Disglair (£110,000 dros gyfnod o ddwy flynedd), fel adnodd ar gyfer ei raglen arddangos arfaethedig ar ail-agor, a pharhau i ddatblygu Exlpore, sef prosiect llwyddiannus iawn sy'n cynnwys wyth oriel ledled y DU mewn tri grwp rhanbarthol sy'n gweithio gyda phobl ac artistiaid byddar ac anabl. Yn ddiweddar, mae Oriel Mostyn wedi gweithio ar y prosiect hwn yn llwyddiannus iawn gydag Ysgol Gogarth, Canolfan yr Orsedd a dau grwp Fforwm Dall a Byddar o Landudno a'r Rhyl. Dywedodd Martin Barlow, Cyfarwyddwr Oriel Mostyn:
"Rydym yn falch iawn bod hanes Oriel Mostyn o ddangos artistiaid blaengar o Gymru a ledled y byd wedi cael ei gydnabod gan y Dyfarniad Cwmni Disglair hwn. Pan fyddwn yn ail-agor ddiwedd y flwyddyn nesaf, bydd yr arian ychwanegol yn golygu y gallwn agor fel oriel o'r radd flaenaf, sy'n dangos arddangosfeydd o'r radd flaenaf, ynghyd â phob math o weithgareddau addysgol lle y gall pawb yn y gymuned gymryd rhan ynddynt".
Bydd Theatr Mwldan Aberteifi yn defnyddio'i Dyfarniad gwerth £120,000 i barhau â'i llwyddiannau diweddar gyda gwaith cynhyrchu a phrosiectau ar draws amrywiaeth eang o ffurfiau ar gelfyddyd, a fydd yn mynd ar daith i amrywiaeth o theatrau a chanolfannau celfyddydol ledled Cymru, y DU, ac yn rhyngwladol mewn rhai achosion.
Bydd Cwmnïau eraill, fel Opera Cenedlaethol Cymru, Theatr Clwyd a Celfyddydau Cymuned Cwm a Bro Cyf, Oriel Davies a Chwmni Dawns Diversions yn defnyddio'u dyfarniadau Cwmnïau Disglair i ddatblygu gwaith allgymorth ymhellach yn eu cymunedau gyda phrosiectau arloesol fel 'Opera Max' Opera Cenedlaethol Cymru, 'The Art of Change' Celfyddydau Cymuned Cwm a Bro, gwaith dawns cymunedol Rubicon yng Nghasnewydd a Chaerdydd, a rhaglen 'Dance Explorer' Diversions.
Bydd Contemporary Temporary Artspace (CTA) a NoFit State Circus yn defnyddio'u Dyfarniadau Cwmnïau Disglair i ddatblygu gweithlu eu sefydliadau ymhellach a fydd hefyd yn golygu cyfleoedd cyflogaeth a chyfleoedd cymunedol yn eu hardaloedd lleol.
Bydd Clwyd Theatr Cymru i Bobl Ifanc, Ffotogallery, Galeri, Caernarfon, Canolfan Grefftau Rhuthun, BBC NOW, Canolfan Celfyddydau Taliesin, Theatr Iolo, Celfyddydau Cymuned Cwm a Bro Cyf a Phlant y Cymoedd yn datblygu eu gwaith addysgol gydag ysgolion drwy lunio rhaglenni dysgu a chynnig cyfleoedd datblygu gyrfaoedd i bobl ifanc yn eu cymunedau.
Er enghraifft, bydd arian Cwmni Disglair o £110,000 yn rhoi'r cyfle i Blant y Cymoedd yn y Rhondda ymestyn ei raglen arloesol, 'Flight Wings', sy'n cynnig cyfleoedd datblygu gyrfaoedd i bobl 16-25 oed yng nghymoedd De Cymru. Dywedodd Miranda Ballin, Cydlynydd ArtWorks Plant y Cymoedd:
"Ni allwn bwysleisio mor falch roeddem o glywed ein bod wedi cael Dyfarniad Cwmni Disglair gan Gyngor Celfyddydau Cymru. Mae'r dyfarniad mawreddog hwn yn cyfleu neges glir iawn i blant ifanc yn y Cymoedd sy'n dangos bod eu gwaith yn cael ei gydnabod a'i gefnogi gan Gymru gyfan a thu hwnt. Bydd y dyfarniad yn caniatáu i ni lansio 'Flight Wings', sef cynllun sy'n cynnig sesiynau mentora, hyfforddi a chefnogaeth i bobl ifanc, ochr yn ochr â datblygu prosiectau ymarferol. Diolch i Gyngor Celfyddydau Cymru am y cyfle hwn sy'n newid byd - gwyliwch ni'n hedfan!"
Prif amcanion y Dyfarniadau Cwmni Disglair yw rhoi'r cyfle i brif sefydliadau celfyddydol Cymru sicrhau canlyniadau, a datblygu eu gwaith ymhellach, a fydd nid unig yn fanteisiol i'r sefydliadau eu hunain, ond hefyd i'w cymunedau a thu hwnt. Dywedodd Nick Capaldi, Prif Weithredwr CCC:
"Mae Cwmnïau'r Dyfarniadau Disglair yn dangos bywiogrwydd y celfyddydau yng Nghymru. Bydd y buddsoddiad ychwanegol y bydd pob cwmni yn ei dderbyn yn eu helpu i ddatblygu eu gwaith, gan greu mwy o gyfleoedd i bobl ledled Cymru brofi gweithgareddau artistig o safon uchel. Rydym yn edrych ymlaen at weithio gyda Chwmnïau'r Dyfarniadau Disglair a'u helpu i wireddu'r potensial llawn y mae'r cyfle hwn yn ei gynnig."
/Diwedd
Nodiadau i Olygyddion:
Dyfarnwyd y Dyfarniadau Cwmnïau Disglair, sy'n amrywio rhwng £25,000 a £140,000, i'r 22 o gwmnïau canlynol, sy'n cwmpasu amrywiaeth eang o sefydliadau celfyddydol bach a mawr:
Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth
Academi
Cerddorfa Genedlaethol Gymreig BBC Cymru
Clwyd Theatr Cymru
Theatr i Bobl Ifanc Clwyd Theatr Cymru
Contemporary Temporary Artspace (g39)
Dawns Tân Tân Dance Cyf
Cwmni Dawns Diversions
Ffotogallery
Galeri
Oriel Gelf Glynn Vivian
Syrcas Gymunedol NoFit State Cyf
Oriel Davies Gallery
Oriel Mostyn, Llandudno
Dawns Rubicon
Canolfan Grefftau Rhuthun
Canolfan Celfyddydau Taliesin
Theatr Iolo
Theatr Mwldan
Celfyddydau Cymuned Cwm a Bro Cyf
Plant y Cymoedd
Opera Cenedlaethol Cymru
Yngl*n â phroses y Dyfarniadau Cwmnïau Disglair:
Cafodd CCC 69 o geisiadau am Ddyfarniadau Cwmnïau Disglair.
Cynhaliwyd cyfarfodydd rhanbarthol er mwyn sifftio'r ceisiadau yn erbyn y meini prawf. Cyrhaeddodd 42 o gwmnïau restr fer a luniwyd mewn cyfarfod sifftio cenedlaethol, ac o blith y rheiny, lluniwyd rhestr fer derfynol a oedd yn cynnwys 22 o gwmnïau.
Hwyluswyd y broses hon yn sgil cyfraniad staff CCC, sy'n meddu ar arbenigedd yn eu maes o ffurf ar gelfyddyd, a thri chymedrolwr allanol annibynnol arbenigol.
Gwnaed y penderfyniad terfynol o ran cwmnïau a'r symiau i'w clustnodi yn unfrydol gan y Cyngor ar ôl cynnal trafodaethau manwl iawn.
I gael gwybodaeth am y wasg a'r cyfryngau, cysylltwch â:
Joanna Davies
Uwch Swyddog y Wasg a'r Cyfryngau, Cyngor Celfyddydau Cymru
02920 376593 / 07817 291 512
joanna.davies@artswales.org.uk