Ein Newyddion Diweddaraf.
Dydd Llun - 17 Rhagfyr 2012
Mae’r rhyngrwyd yn le rhyfedd a rhyfeddol, ble mae pobl yn cwrdd ac yn cyfnewid diddordebau a barn. Mae comedi dywyll newydd Rhian Staples, y ddrama wobrwyol, Cynnau Tân, yn archwilio sut mae dyn a menyw yn cwrdd yn sgil rhannu diddordeb cyffredin ar fforwm ar-lein, a’r hyn sy’n digwydd pan fo’r ddau’n cyfarfod yn y pen draw.
Dydd Mercher - 12 Rhagfyr 2012
Mae MOSTYN yn Llandudno wedi cael ei dethol, ynghyd â phedair oriel gelf arall ym Mhrydain, i gael cyllid pwysig i gychwyn rhaglen eang ac uchelgeisiol ar gyfer pobl ifanc y Gogledd. Bydd y cyllid yn galluogi’r oriel i ddatblygu cynllun cynaliadwy i ymgysylltu â phobl ifanc y rhanbarth cyfan a’u cynnwys mewn gweithgareddau celfyddydol dros y pedair blynedd nesaf.
Mae’r Gwobrau Sgiliau Saernïo wedi cael eu lansio i gydnabod rhagoriaeth mewn addysgu, cynnal a datblygu sgiliau saernïo gan unigolion, cwmnïau, grwpiau a mudiadau.
Dydd Llun - 10 Rhagfyr 2012
Mae'r British Council - sefydliad rhyngwladol y DU ar gyfer cyfleoedd addysgol a chysylltiadau diwydiannol - wedi penodi Simon Dancey fel ei Gyfarwyddwr newydd i Gymru, a fydd yn arwain dwy raglen fyd-eang newydd ar gyfer y British Council.
Dydd Mercher - 05 Rhagfyr 2012
Seren 'A Monster Christmas Adventure' gan Theatr y ‘Likely Story’ yw Amy, merch fach sy'n dymuno y diflannai ei llystad a theithiai wedyn drwy'r parthau hudol i'w achub oddi wrth y Gwerthwr Dymuniadau. Teithia'r sioe o amgylch Cymru â chymorth Noson Allan Cyngor Celfyddydau Cymru.
Mis Rhagfyr eleni bydd Out of the Blue, sioe theatr i fabanod rhwng 6-18 mis oed (a'u hoedolion!), yn dod i Chapter, Caerdydd.
Dydd Llun - 03 Rhagfyr 2012
Heddiw mae'r British Council wedi lansio ei Wobr flynyddol gyntaf ar gyfer Artist Ifanc Rhyngwladol Cymru yn swyddogol, i chwilio am y sêr ifanc sydd â'r dalent orau ym myd y celfyddydau. Y wobr gyntaf o'i bath yng Nghymru.
Ar Daith 1af Rhagfyr 2012 – 5ed Ionawr 2013.
Mae Prentisiaethau Creadigol yn cynnig llwybr o safon uchel sy’n cael ei gymeradwyo gan y diwydiant i mewn i’r sector creadigol a diwylliannol. Mae prentisiaid yn hyfforddi wrth wneud eu gwaith, gan dreulio amser gyda darparwr hyfforddiant i gael sgiliau a hyfforddiant sy’n berthnasol i’r diwydiant.
Dydd Gwener - 30 Tachwedd 2012
Cyhoeddwyd enillydd gwobr Artes Mundi 5 mewn seremoni gyda’r nos yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd.
Dydd Iau - 29 Tachwedd 2012
Mae Coreo Cymru, ar y cyd â National Theatre Wales, yn falch o gyhoeddi eu bod yn derbyn ceisiadau bellach gan artistiaid dawns, ymarferwyr theatr a'u cydweithwyr ar gyfer Comisiynau Datblygu i'w cyflwyno yng Nghymru rhwng mis Ebrill a mis Rhagfyr 2013.
Mae WSD2013 yn ddathliad cynllunio ar gyfer perfformiadau rhyngwladol ym myd theatr, opera a dawns. Cynhelir y digwyddiad yng Nghaerdydd ym mis Medi 2013, wedi ei lwyfannu gan Goleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru.
Dydd Mawrth - 27 Tachwedd 2012
Mae Gwobrau C&B Cymru yn bodoli i annog, cydnabod a dathlu partneriaethau rhagorol rhwng busnes a’r celfyddydau ar hyd a lled Cymru. Cynhelir yr 20fed seremoni, digwyddiad o ansawdd a phroffil uchel, yng Nghanolfan Mileniwm Cymru ar ddydd Llun 8 Gorffennaf 2013.
Dydd Llun - 26 Tachwedd 2012
Caiff ffrwyth prosiect cydweithredol newydd gan Gerddorion o Gymru ac India, dan arweiniad y gantores a’r gyfansoddwraig werin Gymreig, Gwyneth Glyn, a’r cerddor Indiaidd Tauseef Akhtar, ei berfformio am y tro cyntaf ym Mumbai yr wythnos hon. Caiff ei berfformio eto wedyn mewn dwy ŵyl allweddol, sef Gŵyl Cerddoriaeth Anialdir yr Amarrass yn Delhi a’r IndiEarth XChange yn Chennai.
Dydd Iau - 22 Tachwedd 2012
Mae cais gan athrawes ysgol uwchradd ym Mangor wedi ennill y bleidlais i gynnal UwchGynulliad cyntaf erioed National Theatre Wales ar 14 & 15 Rhagfyr.
Dydd Mercher - 21 Tachwedd 2012
Cyhoeddwyd enwebiadau’r Gwobrau Dawns Cenedlaethol am y drydedd flwyddyn ar ddeg ar 9 Tachwedd 2012. Adran ddawns y Critics’ Circle sy’n trefnu’r gwobrau, a roddir yn The Robin Howard Theatre yn The Place nos Lun 28 Ionawr 2013.
Dydd Mawrth - 20 Tachwedd 2012
GWENER 28 - SUL 30 MEHEFIN 2013. Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth.
Dydd Gwener - 16 Tachwedd 2012
Cyfarwyddwr Amgueddfa Diniweidrwydd Orhan Pamuk, Esra Aysun, yw un o’r siaradwyr a fydd yn ymuno ag artistiaid rhestr fer Artes Mundi 5 am gynhadledd undydd, Amlinellau Cymdeithasol: Celf ar y Ffiniau ddydd Mercher 28 Tachwedd, Amgueddfa Cymru, Caerdydd.
Dydd Mawrth - 13 Tachwedd 2012
Bydd y Ffwrnes, sef canolfan newydd a phwrpasol Cyngor Sir Caerfyrddin ar gyfer y celfyddydau perfformiadol, yn agor yn Llanelli ym mis Ionawr 2013.
Dydd Gwener - 09 Tachwedd 2012
Dydd Sadwrn 17 Tachwedd 2012 - 6 Ionawr 2013. Oriel Mission.
Artistiaid, digwyddiadau, cyfleoedd a mwy.
Tanysgrifiwch yma . . .