Cyngor Celfyddydau Cymru | 5. Pryd gallaf wneud cais?

5. Pryd gallaf wneud cais?


Ceir nifer o ddyddiadau cau ar gyfer cyllido drwy gydol y flwyddyn, fel arfer bob chwarter ariannol.


Ar gyfer Sefydliadau

Rhaid i bob cais fod yn gyflawn ac ni dderbynnir ceisiadau hwyr.

  1. 8 Ebrill, 12 Mehefin, 11 Medi, 15 Ionawr
    Ystod y Cymorth £250 - £5,000
    Byddwch yn cael gwybod beth yw'r penderfyniad o fewn 5 wythnos gwaith i ddyddiad cau'r cais.
    Rhaid i chi ganiatau 3 mis o leiaf rhwng dyddiad cau'r cais a'r dyddiad yr ydych am ddechrau'r prosiect.
  2. 1 Mai, 18 Medi
    Ystod y Cymorth £5,001 - £30,000
    Byddwch yn cael gwybod beth yw'r penderfyniad o fewn 13 o wythnosau gwaith i ddyddiad cau'r cais.
    Rhaid i chi adael cyfnod priodol rhwng dyddiad cau'r cais a'r dyddiad pryd rydych am ddechrau'r prosiect. Gan amlaf, byddem yn disgwyl i'r cyfnod hwn fod oddeutu 5 mis.

Ar gyfer Unigolion

  1. 8 Ebrill, 12 Mehefin, 11 Medi, 15 Ionawr
    Grantiau Prosiect £250 - £5,000
    Byddwch yn cael gwybod beth yw'r penderfyniad o fewn 5 wythnos waith i ddyddiad cau'r cais.
    Rhaid i chi adael 3 mis fan leiaf rhwng dyddiad cau'r cais a'r dyddiad pryd rydych am gychwyn eich prosiect.
  2. 1 Mai, 18 Medi
    Grantiau Cynhyrchu £5,001 - £20,000
    Byddwch yn cael gwybod beth yw'r penderfyniad o fewn 13 o wythnosau gwaith i ddyddiad cau'r cais. Rhaid i chi adael 5 mis fan leiaf rhwng dyddiad cau'r cais a'r dyddiad pryd rydych am ddechrau eich prosiect.
  3. 29 lonawr 2010
    Dyfarniadau Cymru Greadigol £5,001 - £12,000 ac £20,000 neu £25,000
    Byddwch yn cael gwybod beth yw'r penderfyniad o fewn 13 o wythnosau gwaith i ddyddiad cau'r cais. Dylech drafod dyddiad priodol i ddechrau'ch prosiect â'ch swyddog CCC.
  4. 8 Ebrill, 12 Mehefin, 11 Medi, 15 Ionawr
    Hyfforddiant £250 - £2,000
    Byddwch yn cael gwybod beth yw'r penderfyniad o fewn 5 wythnos gwaith i ddyddiad cau'r cais. Rhaid i chi adael 3 mis fan leiaf rhwng dyddiad cau'r cais a'r dyddiad yr ydych am ddechrau eich prosiect. Rhaid derbyn pob cais erbyn 5pm ar y dyddiad cau. Rhaid i geisiadau fod yn orffenedig ac ni fyddwn yn derbyn ceisiadau hwyr.

Wrth gynllunio pryd i wneud cais am gyllid Cyngor Celfyddydau Cymru, bydd angen i chi ystyried faint o amser bydd yn ei gymryd i gwblhau'r broses ymgeisio a chael penderfyniad gan y Cyngor. Yn ogystal mae angen i chi ganiatáu digon o amser rhwng dyddiad y penderfyniad a dyddiad dechrau eich prosiect er mwyn paratoi'r gweithgaredd. Y rheswm am hyn yw mai dim ond y costau hynny yr eir iddynt ar ôl i chi ddychwelyd a llofnodi llythyr derbyn grant atom y gall Cyngor y Celfyddydau eu talu.

Wrth amseru eich cais, dylech ystyried y posibilrwydd na fydd yn llwyddiannus neu y bydd llai o arian yn cael ei ddyfarnu nag a geisiwyd, ac y bydd yn rhaid i chi chwilio am gyllid o ffynhonnell arall er mwyn caniatáu i'r prosiect fynd yn ei flaen.

Fe'ch cynghorir yn gryf i gysylltu ag un o Swyddogion Datblygu'r Celfyddydau cyn i chi wneud cais, i drafod eich cais mewn da bryd cyn y dyddiad cau.

Artist: Rabab Ghazoul
Ariannu

Elusen Gofrestredig Rhif 1034245