Mae’r Oriel yn datblygu a’n cyflwyno tua deg arddangosfa pob blwyddyn ar draws tri gofod yn yr oriel. Mae’r rhain yn amrywio o arddangosfeydd mawr a ddewiswyd o gasgliadau cenedlaethol, i waith newydd gan artistiaid sefydledig, ac i waith mwy arbrofol gan artistiaid sy’n datblygu yng ngofod Test Bed Oriel Davies. Yn ogystal â chomisiynu gwaith newydd, mae Oriel Davies hefyd yn cynhyrchu ffilmiau gan artistiaid, ac ystod o gyhoeddiadau o ansawdd uchel.
Mae sawl cyfleuster ar gael yn yr Oriel, sy’n cynnwys golau, llachar, modern sy’n gweini bwyd cartref blasus tu mewn yn ogystal â thu allan ar deras y caffi. Mae siop ar gael hefyd, sydd ag ystod eang o emwaith gan gynllunwyr, cerameg, a thecstilau unigryw gan wneuthurwyr lleol a chenedlaethol adnabyddus mewn stoc, yn ogystal â llyfrau a chylchgronau celf, anrhegion gan gynllunwyr a deunydd ysgrifennu, a theganau, llyfrau a gemau i blant.
Ochr yn ochr â rhaglen yr arddangosfa, sy’n aml yn teithio i leoliadau eraill ar draws y wlad, mae Oriel Davies hefyd yn cynnal cymysgedd fawr o weithdai, cyrsiau, sgyrsiau a digwyddiadau ysgogol. Mae’r Oriel hefyd yn enwog iawn am ei phrosiectau arloesol oddi ar-safle ac am ei rhaglenni addysgol i ysgolion, colegau ac i’r gymuned ehangach.
Oriau agor
Mae Oriel Davies Gallery ar agor Llun - Sadwrn, 10yb - 5yh, gan gynnwys Gwyliau’r Banc. Mae mynediad i’r oriel bob amser am ddim.
Elusen ddielw yw Oriel Davies Gallery (Elusen Gofrestredig rhif 104890) sy’n derbyn cyllid gan Gyngor Celfyddydau Cymru a Chyngor Sir Powys. Mae’r Oriel yn ennill incwm ychwanegol o amryw o ffynonellau, er enghraifft, ymddiriedolaethau elusennol, sefydliadau a drwy nawdd corfforaethol, o elw o siop yr Oriel ac o roddion unigol. Diolch yn fawr iawn i’n holl gefnogwyr.