Cyngor Celfyddydau Cymru | Ynglŷn â Chelfyddydau Gweledol

Ynglŷn â Chelfyddydau Gweledol


Yr her

Parhau i wella a rhoi adnoddau i seilwaith corfforol orielau gan gynnwys orielau o fri cenedlaethol a rhyngwladol, a'r gallu cynhyrchu curadurol a chysylltiedig o fewn Cymru, a mynd ati â ffocws mwy pendant i deithio o fewn y wlad a'r tu allan i Gymru.

Datblygu cyfleoedd a chyd-destunau cefnogol sy'n ffafriol i artistiaid a churaduriaid yng Nghymru, gan eu galluogi i feithrin uchelgeisiau priodol i'w gwaith a datblygu gyrfaoedd cenedlaethol a rhyngwladol. Mae hyn, yn ei dro yn cwmpasu cyfleusterau stiwdio a chynhyrchu, a gwaith cynhyrchu, prosiect ac arddangos wedi'i ariannu'n briodol (yng Nghymru a thu hwnt) fel y gall artistiaid fanteisio ar gyfleoedd wrth iddynt godi.

Datblygu mathau newydd o orielau masnachol, yn asiantaethau i artistiaid cyfoes

Cefnogi fforymau beirniadol, gan gael sylw beirniadol a chynnal presenoldeb rhyngwladol i'r celfyddydau gweledol cyfoes. Mae angen i hyn gynnwys meithrin doniau ysgrifennu brodorol yn ogystal ag ymgysylltu â beirniaid ac ysgrifenwyr o'r tu hwnt i Gymru a chefnogaeth i gyhoeddi ac ysgrifennu beirniadol.

Adeiladu ar fodelau arfer ardderchog ym maes addysg orielau a gwaith allgymorth cymunedol i sicrhau bod cynifer o bobl â phosibl yn gallu ymgysylltu â'r celfyddydau gweledol.

Parhau i hyrwyddo'r celfyddydau gweledol o fewn nifer o agendâu trawsbynciol, yn arbennig lle mae tystiolaeth o gyfraniad arwyddocaol e.e. Y Celfyddydau ac Iechyd, Y Celfyddydau ac Adfywio, Y Celfyddydau a Chymunedau, Y Celfyddydau ac Addysg a llawer mwy.

Hyrwyddo ymwybyddiaeth o'r celfyddydau gweledol a chefnogaeth iddynt yn eu rhyngwyneb â'r Diwydiannau Creadigol eraill (Ffilm, Cyfryngau Newydd, Cerddoriaeth ac ati) yn ogystal ag ym meysydd Gwyddoniaeth, Technoleg a'r sectorau Masnachol.

Ymagwedd soffistigedig o fynd ati i ddatblygu cynulleidfaoedd a marchnata.


Ein Blaenoriaethau

  • Darparu adnoddau ar gyfer datblygiad unigol artistiaid a churaduriaid ar gamau allweddol o'u datblygiad gyrfaol
  • Cwblhau'r rhaglen adnewyddu cyfleusterau orielau ac adeiladu newydd ledled Cymru a darparu adnoddau i'r orielau ar ôl iddynt gael eu datblygu yn eu gwaith arddangos a gwaith rhaglen arall, yn arbennig o ran addysg orielau a gwaith allgymorth
  • Darparu adnoddau ar gyfer addysg y celfyddydau gweledol mewn orielau
  • Datblygu'r ffyrdd y gall pobl ifanc ymwneud â'r celfyddydau gweledol
  • Cael cyfleusterau Cenedlaethol i'r Celfyddydau Gweledol yng Nghymru: Gweithio, ar y cyd ag Amgueddfa Cymru i ddatblygu dichonoldeb dau brosiect adeiladu gwahanol - Canolfan Genedlaethol i Gelf Gyfoes ac Oriel Genedlaethol gyda chasgliad a chyfleusterau arddangos modern a chyfoes. Cefnogi'r sefydliad newydd ar gyfer Celf yn y Byd Cyhoeddus yng Nghymru, Safle, wrth iddo ddatblygu ei waith, yn arbennig o ran gwaith hyrwyddo a phrosiectau sy'n hybu arfer ardderchog ac arloesol o Gymru/yng Nghymru.
  • Cefnogi'r maes sy'n esblygu, sef gwaith mewn agweddau ar y celfyddydau gweledol nad ydynt ymwneud ag orielau.
  • Gweithio gyda phartneriaid i osod y celfyddydau gweledol yng Nghymru mewn perthynas â'r Diwydiannau Creadigol, Gwyddoniaeth a Thechnoleg, gan weithio ar y ffactorau sy'n ffafriol i gadw artistiaid sy'n gweithio yng Nghymru ond sydd â gyrfaoedd yn y DU ac yn rhyngwladol.
  • Hyrwyddo gwaith diwylliannol amrywiol a chynhwysol yn y celfyddydau gweledol.
  • Ysgogi gwell sylw beirniadol i'r celfyddydau gweledol mewn print a chyfryngau eraill.
  • Creu strategaeth gydlynus i barhau i hyrwyddo celfyddydau gweledol Cymru ar lwyfannau rhyngwladol priodol ac arwyddocaol.

Nôl i dudalen y ffurf ar gelfyddyd >>

Elusen Gofrestredig Rhif 1034245