Dydd Llun - 20 Mai 2013
I ddathlu canmlwyddiant geni Benjamin Britten, mae Opera Canolbarth Cymru, mewn partneriaeth â Neuadd Gregynog, yn cynnig cyfle unigryw i fod yn rhan o’r bwrlwm drwy gynnal cwrs preswyl byr.
Dydd Mercher - 24 Ebrill 2013
Mae Theatr Parc a Dâr yn Nhreorci yn parhau â'i dathliadau canmlwyddiant gan fynd â chynulleidfaoedd ar daith ryfeddol drwy ei hanes 100 mlynedd gyda chynhyrchiad cyffrous, Hedfa'r Dychymyg/Flights of Fancy.
Dydd Mercher - 17 Ebrill 2013
Cerdd Cymru : Music Wales @ Focus Wales Dydd Iau 25 Ebrill a Dydd Gwener 26 Ebrill.
Dydd Mercher - 10 Ebrill 2013
Bydd rhai o delynorion ifanc mwyaf talentog Cymru yn teithio i Benybont-ar-Ogwr ddydd Sadwrn, Ebrill 13eg i gymeryd rhan yng nghylch terfynol cystadleuthau i ddathlu bywyd a gwaith un o delynorion mwyaf Ewrop
Ym mis Chwefror eleini cyhoeddwyd enwau wyth act gerddorol o Gymru a ddewiswyd i ddatblygu eu gyrfaoedd ar lefel ryngwladol. I ddiweddu eu wythnos gyntaf o hyfforddiant sgiliau uwch, bydd yr artistiaid hynny yn ymgynull yn Neuadd Powis, Prifysgol Bangor nos Wener yma (12 Ebrill) am berfformiad arbennig iawn o gerddoriaeth byd gorau Cymru.
Dydd Iau - 04 Ebrill 2013
Bydd dwy o gerddorfeydd blaenllaw Cymru yn cydweithio ym mis Ebrill i ddod â phedwar perfformiad cerddoriaeth siambr i gynulleidfaoedd ar draws canolbarth Cymru.
Datganiad o fanylion Digwyddiad Pres Rhyngwladol Arcomis ac mae tocynnau ar werth nawr.
Dydd Mercher - 03 Ebrill 2013
Cyhoeddwyd mai Cerys Matthews fydd Cyfarwyddwr Artistig dathliad ysblennydd o ddiwylliant a cherddoriaeth Gymreig.
Yn galw holl fandiau/artistiaid unigol Cymru. Gwnewch eich cais erbyn 12 Ebrill i WOMEX am sioe arddangos – ac ymgymhwyso i fod yn rhan o daith Gorwelion ym mis Hydref.
Dydd Mawrth - 02 Ebrill 2013
Beth mae hwyaid a physgod yn ei wybod am hanes? Yn ôl opera gymunedol Merthyr, Ynys Gwydr : Island of Glass, dim ond creaduriaid y llyn all ddweud gwir stori cwymp Llys Brenhinol Brycheiniog - pan ddinistriwyd y palas, a adeiladwyd ar ynys wneuthuredig ar Lyn Llangors gan dân ar orchymyn Brenhines Sacsonaidd. Caiff y stori gyfrin hon ei datgelu yn Theatr Soar ar 12 a 13 Ebrill.
Dydd Mercher - 27 Mawrth 2013
Mae’r ŵyl dau ddiwrnod, sy’n cael ei chynnal yng Nghanolfan Menter Greadigol y Galeri, yn dathlu bywydau’r telynorion Fictoraidd mawreddog, John Thomas a Benjamin Britten, un o gyfansoddwyr gorau’r 20fed ganrif.
Dydd Gwener - 22 Mawrth 2013
10 mlynedd. 200 artist. £3 miliwn mewn grantiau i artistiaid. Neithiwr (21 Mawrth 2013) cafodd 22 artist proffesiynol ar draws y celfyddydau Ddyfarniad Cymru Greadigol gan Gyngor Celfyddydau Cymru wrth ddathlu 10 mlynedd o gydnabod swyddogaeth ein hartistiaid.
Dydd Iau - 14 Mawrth 2013
Lansiwyd Cyrraedd y Nod yn 2009 i gefnogi pobl ifainc 11-19 oed o Gymru nad oeddynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant neu a oedd mewn perygl o fod felly.
Dydd Mercher - 13 Mawrth 2013
Mae Music Theatre Wales a Scottish Opera wedi ennill y Wobr Sky Arts South Bank Show bwysig am eu cynhyrchiad ar y cyd o Ghost Patrol, yr opera un-act gyffrous gan y cyfansoddwr o’r Alban, Stuart MacRae.
Dydd Mawrth - 12 Mawrth 2013
Unwaith eto daw cynulleidfa sy’n caru cerddoriaeth o bellteroedd byd i Ŵyl odidog Gregynog sy’n cael ei chynnal yn neuadd ysblennydd Gregynog, ger y Drenewydd, Sir Drefaldwyn o 20 i 30 o Fehefin 2013.
Gosodiad dŵr a chelf ddigidol enfawr yn Aberhonddu.
Dydd Gwener - 22 Chwefror 2013
Mae telynorion ifainc yn cael eu hannog i gystadlu mewn gŵyl newydd i ddathlu bywyd a gwaith telynor Fictoraidd arbennig.
Mae prosiect newydd gan Gerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC yn helpu oedolion a phlant byddar a thrwm eu clyw i gael mynediad i gerddoriaeth, drwy gyfres o ddigwyddiadau am ddim sy’n cael eu cynnal yng Nghaerdydd.
Dydd Gwener - 15 Chwefror 2013
Er mai dim ond unwaith y flwyddyn maent yn digwydd, mae clyweliadau agored Live Music Now yn gyfle euraidd i gerddorion proffesiynol ifanc. Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw Mawrth 14eg gyda’r clyweliadau’n cael eu cynnal ar Ebrill 25ain yn y Coleg Cerdd a Drama Brenhinol yng Nghaerdydd.
Mae Theatr Parc a Dâr yn Nhreorci yn dathlu ei chanmlwyddiant eleni. Y digwyddiad coffau cyntaf fydd Cân yr Adeilad gyda pherfformiadau cyhoeddus yn y theatr ar 13 a 14 Mawrth.
Artistiaid, digwyddiadau, cyfleoedd a mwy.
Tanysgrifiwch yma . . .