Yng Nghymru, nodwyd bod y diwydiannau creadigol, yn ogystal â diwylliant, yn allweddol i dwf busnes.
Gweithio gyda Phartneriaid
Drwy weithio gydag ystod o bartneriaid eraill, rydym yn cefnogi’r diwydiannau creadigol a diwylliannol drwy fuddsoddi mewn sefydliadau, a thrwy ddatblygu a chefnogi eu hunigolion.
Rydym yn cyfrannu tuag at adfywio cymunedau, yn arbennig y rhai a chanddynt lefelau uchel o amddifadedd cymdeithasol, drwy fuddsoddi mewn seilwaith fel rhan o’n rhaglen datblygu cyfalaf, a phrosiectau a gweithgareddau celfyddydol drwy ein rhaglenni buddsoddi blynyddol eraill.
Rydym yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru, awdurdodau lleol a Sgiliau Creadigol a Diwylliannol i ddatblygu hyfforddiant ar gyfer y gweithlu, a gwasanaethau cymorth busnes i’r rhai sy’n gweithio yn y diwydiannau creadigol a diwylliannol.
Calon Cymru Ddigidol
Calon Cymru Ddigidol: adolygiad o’r diwydiannau creadigol ar gyfer Llywodraeth Cynulliad Cymru yw'r Strategaeth i'r Diwydiannau Creadigol a fabwysiadwyd gan Lywodraeth y Cynulliad yn 2004. Deilliodd o’r gred bod y sector hwn yn un hollbwysig i Gymru.
Derbyniodd Nick Capaldi, Prif Weithredwr Cyngor Celfyddydau Cymru, wahoddiad i drafod yr agenda diwydiannau creadigol gyda’r adolygiad hwn. Yn ei gyfraniad i'r Adolygiad, cefnogodd Nick Capaldi pwys y mae Llywodraeth Cymru yn ei roi ar gefnogi’r diwydiannau creadigol.
Fel Cyngor Celfyddydau Celfyddydau rydym wastad yn dadlau bod y celfyddydau’n bwysig yn eu rhinwedd eu hunain. Fodd bynnag rydym hefyd yn ceisio cyfl eu’r neges i lywodraeth bod y diwydiannau creadigol a diwylliannol yn rhan hollbwysig o economi Cymru.
Maent yn cyfrannu’n uniongyrchol trwy greu swyddi ac yn cynhyrchu cyfoeth trwy greu, dosbarthu a gwerthu nwyddau a gwasanaethau.
Roedd prif gwmnïau byd-eang y gorffennol – yn enwedig yng Nghymru – yn arfer bod yn gysylltiedig â diwydiant a gweithgynhyrchu. Bydd mwy a mwy o gorfforaethau allweddol y dyfodol yn perthyn i feysydd cyfathrebu, gwybodaeth, adloniant, gwyddoniaeth a thechnoleg.
Mae’r rhain yn gofyn am lawer o ddychymyg creadigol a gweledigaeth entrepreneuraidd – rhinweddau y mae’r celfyddydau mewn sefyllfa ddelfrydol i’w meithrin a’u datblygu.