Cyngor Celfyddydau Cymru | Y Celfyddydau ac Iechyd

Y Celfyddydau ac Iechyd

Mae Cyngor Celfyddydau Cymru yn ymdrechu i gynyddu'r ddealltwriaeth o rôl y celfyddydau mewn iechyd a lles yng Nghymru.


Mae Cymru yn ffodus o gael cymuned ffyniannus o artistiaid sy'n ymwneud â gwaith iechyd. Eu parodrwydd hwy i ddefnyddio'u gweledigaeth greadigol a'u sgiliau er budd eraill yw'r sylfaen i waith celf ac iechyd.


Hybu'r ddealltwriaeth

Mae Cynllun Gweithredu Y Celfyddydau mewn Iechyd a Lles yn bwriadu cynyddu'r ddealltwriaeth o rôl y celfyddydau mewn iechyd a lles a chefnogi datblygiad mentrau celfyddydau ac iechyd drwy wybodaeth ac arweiniad. Mae’n disgrifio camau mewn pum prif faes:

  • Y Celfyddydau ac Iechyd a Lles y Cyhoedd
  • Y Celfyddydau mewn Lleoliadau Gofal Iechyd
  • Celfyddydau Cymunedol ac Iechyd a Lles
  • Proffesiynau Therapiau Celf
  • Y Celfyddydau mewn Dyniaethau a Gofal Iechyd

Nod y cynllun, sy’n eiddo i Gyngor Celfyddydau Cymru, yr Adran Dreftadaeth, a’r adran Iechyd y Cyhoedd a Phroffesiynau Iechyd, yw bod yn sail i ddatblygu’r celfyddydau ac iechyd yng Nghymru yn y dyfodol.


Buddiannau'r celfyddydau

Cydnabuwyd ers tro bod cysylltiad rhwng y celfyddydau ac iechyd, ac y gall pobl elwa ar fod mewn amgylchedd ffafriol wedi’i gyfoethogi gan gynllun da a chelfyddyd, yn ogystal ag elwa ar gymryd rhan weithredol mewn gweithgareddau creadigol.

Mae’r buddiannau yn ymwneud yn bennaf ag iechyd a lles emosiynol; trwy rym cerddoriaeth, llenyddiaeth a chelfyddydau gweledol i wneud i bobl ymlacio a chael rhyddhad emosiynol, neu’r cyfleoedd a ddarperir gan y celfyddydau ar gyfer hunanfynegiant a chyswllt cymdeithasol pleserus.

Mae Gwella Profiad y Claf, Celfyddyd Iechyd Da yn ddogfen sydd wedi’i chynllunio i ysgogi ac ysbrydoli pawb sy’n ymwneud â dylunio, caffael, datblygu a chynnal a chadw adeiladau gofal iechyd i edrych am ffyrdd newydd ac arloesol o wella amgylcheddau i gleifion a staff fel ei gilydd. Mae’n cynnwys cyngor ac arweiniad ar y ffordd orau o weithredu a rheoli rhaglenni ar gyfer newid mewn adeiladau newydd ac adeiladau sy’n cael eu hadnewyddu.

Gofal Celf/Arts Care
Ffurfiau ar Gelfyddyd

Elusen Gofrestredig Rhif 1034245