Ein Blaenoriaethau
Trwy gydweithio gyda’n partneriaid byddwn yn meithrin presenoldeb cerddoriaeth yn ei holl ffurfiau ac amrywiaeth er mwyn iddo fywiogi a gweddnewid ein cymunedau.
Llwyddwn i wneud hyn trwy:
- wella ein hadnoddau comisiynu sydd ar gael i gyfansoddwyr/cerddorion
- eiriol yn gryf dros yr hawl i gerddoriaeth mewn addysg a thrwy gydol oes.
Bydd parhau i roi cefnogaeth i gwmnïau blaenllaw Cwmni Opera Cymru a Cherddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC o ran eu nodau artistig, yn eu hybu i gael llwyfan cyson o safon byd a hefyd estyn eu dylanwad ar fywyd cerddorol Cymru.
Mae’n hollbwysig ein bod yn gweithio ar seilwaith cerddoriaeth yng Nghymru, gan greu cartref gyrfaol i fwy o gerddorion yng Nghymru. Mae hyn yn ystyriaeth i’r holl genres cerddorol ac mae’n mynnu amrywiaeth o strategaethau i roi sylw i wahanol feysydd:
- adolygu ein polisi fframwaith i gefnogi gwyliau
- gosod llwybrau i ddatblygu cerddoriaeth draddodiadol
- cefnogi dull mwy uchelgeisiol, deinamig a chydlynol i jazz
Blaenoriaeth arall yw datblygu cynulleidfaoedd byw i gerddoriaeth, trwy gefnogi gwaith y lleoliadau a’r cyrff sy’n mynd i’r afael â chyflwyno cynulleidfaoedd i amrywiaeth o arddulliau cerddorol.
Bydd hyrwyddo sgiliau technolegol a gwybodaeth angenrheidiol i gerddorion Cymreig yn caniatau iddynt ragori yn eu gwaith.
Nôl at dudalen y ffurf ar gelfyddyd >>