Bedwyr Williams: The Starry Messenger, digwyddiad sy'n cyd-fynd â'r Arddangosfa Gelfyddydol Ryngwladol rhif 55 – la Biennale di Venezia
Trefnwyd hon gan Gymru yn Fenis
"Saif y seryddwr ar bwys y ffenestr fel petai mewn breuddwyd oherwydd y wefr a gâi o weld ei arsyllfa ac uwch ei phen wybren lawn sêr. Dylai fod yn edrych yn awchus drwy ei delesgop ond mewn gwirionedd syllu ar ei hobi y mae a hynny â phleser. Yn y daflen y bu'n ei byseddu ers misoedd roedd golygfa nid annhebyg i hon. Arsylla ar ei arsyllfa."
Cyfieithiad o ddarn o lyfr 'The Astronomer' gan Bedwyr Williams
Bedwyr Williams, mewn prosiect a gydguradurir gan MOSTYN ac Oriel Davies a chyda chefnogaeth Cyngor Celfyddydau Cymru, yw'r artist i gynrychioli Cymru yn yr Arddangosfa Gelfyddydol Ryngwladol rhif 55 . Cyflwyna The Starry Messenger yn Ludoteca Santa Maria Ausiliatrice, Fenis, a archwilia'r perthnasau rhwng syllu ar y sêr a'r cartref a swyddogaeth yr amatur mewn byd proffesiynol.
Ganed ef yn Llanelwy ym 1974 ac erbyn hyn mae'n byw a gweithio yng Nghaernarfon. Ymdrinia ei berfformiadau barddonol ac ysmala â Chymreictod, â bod fel arall ac â bod yn wahanol. Yn y gorffennol yn ei waith ymgymerai â gwahanol bersonâu - pregethwr unllygeidiog, Angau a Chownt y Paill.
"Mae gennyf ddiddordeb yn y sefyllfaoedd gwaethaf oll a'r bobl sy'n cael eu hunain ynddynt", meddai.
Tynna gwaith yr artist yn aml ar agweddau od ar ei fywyd ei hun i ddatblygu cerfluniau neu berfformiadau. Cyfuna'r celfyddydau â bywyd gyda thwts bach personol sy'n gydymdeimladol ac yn ymwneud â pherthnasau. Archwilia ei osodiad, ei weithiau testun a'i berfformiadau bynciau gan gynnwys ei fagwraeth ym Mae Colwyn â thraed maint 13, damwain mewn bws mini gyda phedwar artist preswyl arall (ef yw'r unig oroeswr).
Ymddangosai ei waith yn sioe agoriadol MOSTYN a'r llynedd mewn gosodiad cofiadwy yn Oriel Davies sef Nimrod, darn a ymddangosai'n gyntaf yn Oriel Ceri Hand. Agorodd ei arddangosfa My Bad yn Oriel Eicon, Birmingham gan deithio i Oriel Mission yn Abertawe. Cynrychiolir ef gan Oriel Ceri Hand ac yn ddiweddar lansiodd sioe undyn newydd gan Bedwyr, Dear Both, yn ei horiel newydd yn Llundain, ym Murlun Llundain 2012. Cyflwynodd Bedwyr hefyd Curator Cadaver Cake yn rhan o brosiectau'r Frieze gyda Chelfyddydau Grizedale. Roedd yn un o uchafbwyntiau'r ŵyl gyda'i hawtopsia gyhoeddus ar gelain o guradur a wnaed o gacen gydag ymysgaroedd bwytadwy.
Yn Ffair Gelfyddydol Ryngwladol gychwynnol Llundain, Art13, ym Mawrth 2013 roedd stondin perfformio arbennig a ddyluniwyd ganddo a pherfformiodd ef yno ddwywaith.
Dewis da yw Bedwyr ar gyfer her Biennale Fenis. Ym Miennale 2005 ar ynys Giudecca, enw arddangosfa Fenis Cymru gan Peter Finnemore, Paul Granjon a Laura Ford oedd Somewhere Else. Ar yr un adeg cafodd Bedwyr gomisiwn lleoli artist gan Gywaith Cymru. Ychwanegiad ategol oedd ei waith ochr yn ochr â'r arddangosfa swyddogol. Esgorodd ar lyfr a chyflwyniad yn y Giudecca o'r enw Basta ("That’s Enough"!) sy'n adlewyrchu hiraeth yr artist preswyl am ei gartref.
Curadura ddwy oriel bwysig o Gymru waith Bedwyr yno, MOSTYN ac Oriel Davies, yn Ludoteca (rhwng y Giardini a'r Arsenale). Dyma'r ail dro i Gymru arddangos yno.
Meddai Amanda Farr, Cyfarwyddwr Oriel Davies: "Rhaid inni edrych ar y byd yn wahanol oherwydd gweledigaeth glir Bedwyr. Dyma'r dewis gorau i gynrychioli Cymru yn Fenis."
Meddai Alfredo Cramerotti, Cyfarwyddwr MOSTYN: "Bedwyr yw un o'n hartistiaid gorau. Rhydd ei hun ar ganol pos anodd iawn - sut i bontio a datrys syniad y bach a'r mawr, y penodol a'r cyffredinol."
Comisiynir a rheolir yr arddangosfa gan Gyngor Celfyddydau Cymru a Chelfyddydau Rhyngwladol Cymru gyda chefnogaeth a chydweithrediad Llywodraeth Cymru a The British Council.