Gweledigaeth Cyngor Celfyddydau Cymru yw Cymru greadigol lle mae'r celfyddydau yn greiddiol i fywyd y genedl.
Cefnogi'r gwaith o greu celfyddyd wych
Rydym yn cefnogi'r broses o greu celfyddyd o ansawdd uchel.
Rydym am i Gymru fod yn llawn artistiaid cryf, parhaol, llwyddiannus ac arloesol ynghyd â sefydliadau celfyddydol yn cwmpasu pob math o gelfyddyd, sy'n creu, yn cyflwyno ac yn hyrwyddo gweithgareddau celfyddydol o ansawdd uchel.
Ymhlith ein cyfrifoldebau hefyd mae Celfyddydau Rhyngwladol Cymru a phresenoldeb Cymru ym Miennale Celf Fenis.
Annog rhagor o bobl i fwynhau'r celfyddydau a chymryd rhan ynddynt
Rydym am i gynifer o bobl â phosibl brofi a mwynhau'r celfyddydau.
Ein staff sy’n sicrhau fod ein polisiau yn bodloni gofynion, ac yn cefnogi, blaenoriaethau Llywodraeth Cymru.
Darllenwch ragor am ein hamcanion Ymgyfranogi ac Ymgysylltu yma.
Ehangu economi'r celfyddydau
Y ni sy’n arwain ac yn cydlynu datblygiad polisïau sydd â'r nod o dyfu ac estyn economi celfyddydau Cymru.
Mae hyn yn cynnwys yr economi ddigidol a chreadigol, Partneriaethau Darlledu'r Celfyddydau a gweithredu’r Cynllun Casglu.
Darllenwch ragor am ein hamcanion Menter ac Adfywio yma.