Cyngor Celfyddydau Cymru | Ymgynghorwyr Cenedlaethol

Ymgynghorwyr Cenedlaethol

Ydy’r celfyddydau yng Nghymru yn agos at eich calon? Ydych chi’n fodlon cynnig eich syniadau, profiad ac arbenigedd er mwyn datblygu cyfleoedd newydd i bobl ledled Cymru gymryd rhan yn y celfyddydau a’u mwynhau?

Os felly, hoffem ni, Cyngor Celfyddydau Cymru, glywed gennych.

Dod yn Ymgynghorydd Cenedlaethol

Os oes diddordeb gennych mewn bod yn Ymgynghorydd Cenedlaethol, darllenwch ein pecyn gwybodaeth am ragor o wybodaeth.


Beth yw Ymgynghorwyr Cenedlaethol?

Defnyddiwn rwydwaith o Ymgynghorwyr Cenedlaethol i sicrhau bod ein Cyngor a’n staff proffesiynol yn wybodus, yn gytbwys ein barn ac yn ymwybodol o’r amrywiaeth sydd o weithgarwch creadigol cyfoes.

Mae hefyd yn bwysig ein bod yn gyfarwydd â’r datblygiadau a’r syniadau diweddaraf yn y byd celf a thu hwnt.

Pobl sy’n rhoi o’u hamser yn wirfoddol yw’r Ymgynghorwyr Cenedlaethol. Gwnânt hynny i’n helpu ni, a’u cydartistiaid, i ddatblygu safon y celfyddydau yng Nghymru.

Darllenwch restr lawn o’n Ymgynghorwyr Cenedlaethol yma.


Prospectws

Gallwch ddod i wybod mwy am ein ymgynghorwyr a darllen y prospectws yma.

Dogfennau perthnasol

Y Cyngor: Llun: NoFit State Circus

Y Cyngor

Ei aelodau a'i waith

Staff | Llun: Artist Marega Palser

Staff

Strwythur ac aelodau'r staff

Elusen Gofrestredig Rhif 1034245