Mae ein Cynllun Cyhoeddi yn rhwymo Cyngor Celfyddydau Cymru i ofalu bod gwybodaeth ar gael i’r cyhoedd fel rhan o’i weithgareddau busnes arferol.
Mae'r Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth yn ei gwneud yn ofynnol i bob corff fabwysiadu, cadw ac adolygu cynllun cyhoeddi a chyhoeddi gwybodaeth yn rhagweithiol yn unol â'u cynllun.
Mae Cyngor Celfyddydau Cymru yn gweithredu Cynlluniau Cyhoeddi’r Comisiynydd Gwybodaeth, sy’n weithredol ers 1 Ionawr 2009. Mae'r cynllun cyhoeddi'n cynnwys
- manylion y categorïau a'r dosbarthiadau o wybodaeth y mae'r sefydliad yn ei chyhoeddi neu'n bwriadu ei chyhoeddi
- y fformat y mae'r wybodaeth ar gael ynddo
- manylion unrhyw daliadau a allai fod yn gysylltiedig â gweld y wybodaeth.
Mae Rheolwr Cydymffurfio a Gwybodaeth y Cyngor yn gyfrifol am y gwaith dyddiol o gynnal a chadw'r Cynllun a'i weithredu.
Croesewir sylwadau ac awgrymiadau o ran dosbarthiadau / categorïau o wybodaeth na chynhwysir ond a allai fod o ddiddordeb i'r cyhoedd. Dylid cyfeirio sylwadau at:
Angela Thomas
Y Rheolwr Cydymffurfio a Gwybodaeth
Cyngor Celfyddydau Cymru
Plas Bute
Caerdydd
CF10 5AL
angela.thomas@artswales.org.uk