Mae Cyngor Celfyddydau Cymru yn gyfrifol am noddi a datblygu'r Celfyddydau yng Nghymru.
Elusen annibynnol yw Cyngor Celfyddydau Cymru a sefydlwyd drwy Siarter Frenhinol ym 1994. Penodir ei aelodau gan Weinidog Diwylliant a Chwaraeon Llywodraeth Cymru.
Llywodraeth Cymru yw ein prif noddwr. Dosbarthwn hefyd arian o'r Loteri Genedlaethol a chodwn arian ychwanegol lle gallwn o amrywiaeth o ffynonellau sector preifat a chyhoeddus.
Ni yw prif asiantaeth datblygu ac ariannu'r celfyddydau yng Nghymru.
Gweithiwn ar y cyd â Llywodraeth Cymru i allu dangos sut y mae'r celfyddydau o gymorth i gyflawni uchelgais polisi'r Llywodraeth.
Gweithia'n staff mewn swyddfeydd ym Mae Colwyn, Caerfyrddin a Chaerdydd.
Ein Dyfodol
Ein gweledigaeth yw Cymru greadigol lle mae'r celfyddydau wrth wraidd bywyd y genedl.
Darllenwch ein Cynllun cyfredol i ddysgu mwy amdanom ni a'n hymrwymiad i'r Celfyddydau.
Adolygu ein sefydliad
Y gynharach eleni fe adolygom ei gweithrediadau a’n strwythur. Y nod yw lleihau ein costau rhedeg, ac edrych ar yr amrediad a’r math o wasanaethau y dylem eu darparu yn y dyfodol.
Darllen mwy...
Cysylltu â ni
Swyddfa Ganolog
Cyngor Celfyddydau Cymru
Plas Bute
Caerdydd
CF10 5AL
Ffôn: 0845 8734 900
Ffacs: 029 2044 1400
SMS: 07797800504 (Codir tâl am negeseuon yn ôl eich graddfa rhwydwaith safonol yn unig)
Gweld y lleoliad hwn ar fap.
Swyddfeydd Rhanbarthol
I gysylltu â'n swyddfeydd rhanbarthol a thimau penodol yng Nghyngor Celfyddydau Cymru, gallwch chwilio ein cyfeiriadur staff.