Cyngor Celfyddydau Cymru | Cynorthwyydd Personol/Cydlynydd Tîm (Cyllid ac Adnoddau Dynol)

Cynorthwyydd Personol/Cydlynydd Tîm (Cyllid ac Adnoddau Dynol)

02 Maw 2012

Cynorthwyydd Personol/Cydlynydd Tîm (Cyllid ac Adnoddau Dynol) (37 awr yr wythnos)
(Caerdydd)
£17,798 - £23,136 y flwyddyn

Cynorthwyydd Personol i Gyfarwyddwr (Cyllid ac Adnoddau) a chefnogaeth weinyddol i'r Swyddog Adnoddau Dynol, chi fydd yn gyfrifol am gynllunio, paratoi a chydlynu cyfarfodydd, dogfennau ac adroddiadau, cynnal a chadw system wybodaeth Adnoddau Dynol, delio ag ymholiadau a gweinyddu beunyddiol.

Chi fydd y prif gyswllt i'r Cyfarwyddwr a'r Swyddog gan gyflenwi a sicrhau rheoli pob gohebiaeth yn effeithiol. Chi fydd yn gyfrifol am reoli'r dyddiadur a threfnu a gweinyddu gwahanol ddigwyddiadau (cynadleddau, hyfforddiant ac ati) yn ôl y galw.

Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn rhugl yn y Gymraeg (yn ysgrifenedig ac ar lafar) ac yn meddu ar sgiliau gwasanaeth cwsmeriaid ardderchog i ddelio â'r cyhoedd, y staff, cleientiaid allanol a rheoli'r perthnasau hyn yn briodol. Mae'n hanfodol i chi ddeall y cyfrifoldebau sy'n mynd law yn llaw â chefnogi uwch-aelodau o'r staff ac ymdrin â gwybodaeth gyfrinachol a sensitif a bod yn gyfarwydd â llywodraethu ac atebolrwydd. Mae eisiau i chi feddu ar ymwybyddiaeth sylfaenol o brosesau a gweithdrefnau Adnoddau Dynol a sgiliau TGCh datblygedig a'r gallu i flaenoriaethu a gweithio dan bwysau.

Mae'n buddion yn cynnwys oriau gweithio hyblyg, gwyliau hael a phensiwn cyflog terfynol. Gweithiwn yn y Gymraeg a'r Saesneg. Am ragor o fanylion a ffurflen gais, ffoniwch 02920 44 1343 neu lawrlwythwch y ddogfen ganlynol:

logo pdf bach'Disgrifiad swydd - Cynorthwyydd Personol / Cydlynydd Tîm (Cyllid ac Adnoddau Dynol)


Dyddiad cau: 2 Mawrth 2012.

Mae gan Gyngor Celfyddydau Cymru Bolisi Recriwtio Cyfle Cyfartal. Mae'n croesawu ceisiadau o bob rhan o'r gymuned.
‘Enillydd Gwobr Rhagoriaeth (Cydraddoldeb yn y Sector Cyhoeddus) Diverse Cymru 2011’

Elusen Gofrestredig Rhif 1034245