Gyrfaoedd gyda Chyngor Celfyddydau Cymru.
Ydych chi'n chwilio am gyfleoedd a gynigir gan sefydliadau celfyddydol eraill? Ewch draw i'r Cyfeiriadur Celf.
Mae Cyngor Celfyddydau Cymru ar hyn y bryd yn gwahodd ceisiadau am y swyddi canlynol.
Dyddiad Cau Dydd Gwener - 02 Mawrth 2012
A ydych yn frwd dros y celfyddydau? A ydych yn weinyddwr eithriadol? A ydych yn ddymunol ar y ffôn ac yn awyddus i wasanaethu cwsmeriaid? A ydych yn siarad ac ysgrifennu Cymraeg a Saesneg yn rhugl ac yn dda? A ydych yn hoff o wybod yr hyn sy'n digwydd?
Cynorthwyydd Personol i Gyfarwyddwr (Cyllid ac Adnoddau) a chefnogaeth weinyddol i'r Swyddog Adnoddau Dynol, chi fydd yn gyfrifol am gynllunio, paratoi a chydlynu cyfarfodydd, dogfennau ac adroddiadau, cynnal a chadw system wybodaeth Adnoddau Dynol, delio ag ymholiadau a gweinyddu beunyddiol.
Dyddiad Cau Dydd Iau - 08 Mawrth 2012
Cynnig Cyngor Celfyddydau Cymru bedair swydd gyffrous i uwch-weithwyr proffesiynol ym maes y celfyddydau a fyddai wrth eu bodd â'r her o lywio dyfodol celfyddydau Cymru.
Dyddiad Cau Dydd Gwener - 09 Mawrth 2012
Mae'r swydd yn un allweddol yn y Cyngor. Cydlyna a darpara'r Pennaeth wasanaethau a chyngor o safon a fydd o gymorth i'n prif sefydliadau celfyddydol i ddatblygu eu busnes a'u gallu trefniadol.
10 Chwefror 2012
10 Hydref 2011
10 Chwefror 2011
Artistiaid, digwyddiadau, cyfleoedd a mwy.
Tanysgrifio