Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru yn rhoi cyllid i Gyngor Celfyddydau Cymru gyflawni ei hamcanion polisi strategol fel y'u hamlinellir yn Cymru'n Un.
Mae'r Llythyr Cylch Gwaith gan Lywodraeth Cymru yn cynnwys agenda i Gyngor Celfyddydau Cymru adeiladu ei bolisiau strategol a gweithredol o'i amgylch mewn perthynas â Cymru'n Un. Mae hefyd yn amlinellu cynlluniau Llywodraeth Cymru ar gyfer y celfyddydau.
Hefyd fe amlinellir targedau Llywodraeth Cymru ar arfer da ym maes cyfathrebu a'n Hymagwedd at Ddarparu. Mae hyn yn cynnwys ein Côd Ymarfer Gorau.
Uchelgais Cymru'n Un yw "gweddnewid Cymru a'i throi'n genedl a chymdeithas hyderus, ffyniannus, sy'n deg â phawb".