Cyngor Celfyddydau Cymru | Cydraddoldebau

Cydraddoldebau

Mae Cyngor Celfyddydau yn ymrwymedig i weithredu polisi sy'n hyrwyddo mynediad cyfartal at ystod lawn o ddigwyddiadau celfyddydol i bobl o bob oed, gallu, diwylliant a chymuned.


Polisi Cyfle Cyfartal

Mae ein Polisi Cyfle Cyfartal a'n Côd Arferion Gorau yn amlinellu'n hymrwymiad i sicrhau ein bod yn gosod materion cydraddoldeb ym mhrif ffrwd ein gwaith a'n perthynas gyda chyrff cyllid a phartneriaid eraill.


Cynllun Cydraddoldeb Strategol

Dilynwch y ddolen hon i ddarllen ein Cynllun Cydraddoldeb Strategol a'i amcanion.


Canllawiau i Sefydliadau

Mae Cyngor Celfyddydau Cymru yn disgwyl i’r rhai hynny sy’n derbyn grantiau i weithredu polisiau cyfleoedd cyfartal effeithiol a defnyddio’r Cod Arferion Gorau ar gyfer Cyrff a Gyllidir fel canllaw yn hyn o beth.

Yn ogystal â hyn rydym wedi cyhyrchu’r enghraifft hon o bolisi cyfle cyfartal fel canllaw ychwanegol i sefydliadau celfyddydol bychan, gwirfoddol.

Mae Lle Cyfartal yn cynnig canllawiau ymarfer gorau ar bwnc anabledd i sefydliadau celfyddydol.

Canllawiau a thempladau ar gyfer Asesiad Effaith Cydraddoldeb

logo pdf bach Arweiniad fesul cam i greu Asesiad o'r Effaith ar Gydraddoldeb

icon-ms-word-bachTempled i'r Asesiad o'r Effaith ar Gydraddoldeb


Monitro Cydraddoldeb

Mae ein Grŵp Mewnol ar Fonitro Cydraddoldeb, sy’n cynnwys staff ar draws y sefydliad, yn monitro datblygiad wrth weithredu ein gwaith cydraddoldebau ac mae’n adrodd yn uniongyrchol i’n Cyngor.

Nod y broses hon yw sicrhau ein bod yn ystyried effaith ein polisiau ar wahanol bobl a bod o gymorth i ni wrth adnabod unrhyw anghydraddoldebau, neu botensial anghydraddoldebau ac felly gwella ein gwasanaeth a’n hymarfer cyflogaeth.

Gellir dod o hyd i'n Hasesiadau Effaith Cydraddoldeb ni ochr yn ochr â pholisïau diweddar ar ein gwefan.

Artist: Anthony Shapland
Amdanom Ni

Elusen Gofrestredig Rhif 1034245