Mae Cyngor Celfyddydau yn ymrwymedig i weithredu polisi sy'n hyrwyddo mynediad cyfartal at ystod lawn o ddigwyddiadau celfyddydol i bobl o bob oed, gallu, diwylliant a chymuned.
Mae ein Polisi Cyfle Cyfartal a'n Côd Arferion Gorau yn amlinellu'n hymrwymiad i sicrhau ein bod yn gosod materion cydraddoldeb ym mhrif ffrwd ein gwaith a'n perthynas gyda chyrff cyllid a phartneriaid eraill.
Gan gydymffurfio â'n dyletswydd fel Corff Cyhoeddus rydym wedi cyhoeddi:
Adroddiad Blynyddol ar Gydraddoldeb 2010-11
Cynllun Cydraddoldeb Hiliol
Cynllun Cydraddoldeb Anabledd (darllenwch hefyd Symud Ymhellach Ymlaen - strategaeth anabledd)
Cynllun Cydraddoldeb Rhywiol
Canllawiau i Sefydliadau
Mae Cyngor Celfyddydau Cymru yn disgwyl i’r rhai hynny sy’n derbyn grantiau i weithredu polisiau cyfleoedd cyfartal effeithiol a defnyddio’r Cod Arferion Gorau ar gyfer Cyrff a Gyllidir fel canllaw yn hyn o beth. Yn ogystal â hyn rydym wedi cyhyrchu’r enghraifft hon o bolisi cyfle cyfartal fel canllaw ychwanegol i sefydliadau celfyddydol bychan, gwirfoddol.
Mae Lle Cyfartal yn cynnig canllawiau ymarfer gorau ar bwnc anabledd i sefydliadau celfyddydol.
Rydym ar hyn o bryd yn datblygu Canllawiau Cydraddoldeb Hiliol a gyhoeddir yn 2011/12.
Monitro
Mae ein Grŵp Mewnol ar Fonitro Cydraddoldeb, sy’n cynnwys staff ar draws y sefydliad, yn monitro datblygiad wrth weithredu ein gwaith cydraddoldebau ac mae’n adrodd yn uniongyrchol i’n Cyngor. Mae hyn yn cynnwys monitro ein Proses asesiad o effaith gydraddoldeb.
Nod y broses hon yw sicrhau ein bod yn ystyried effaith ein polisiau ar wahanol bobl a bod o gymorth i ni wrth adnabod unrhyw anghydraddoldebau, neu botensial anghydraddoldebau ac felly gwella ein gwasanaeth a’n hymarfer cyflogaeth. Dyma yr asesiad a wnae ar ein Polisi Cyfle Cyfartal:
Sgrinio ac Asesiad Effaith Cydraddoldeb 2009
Gellir dod o hyd i asesiadau ochr yn ochr â pholisïau diweddar ar ein gwefan.
Byddwn yn monitro ein Cynllun Cydraddoldeb Anabledd yn flynyddol yn ein Cynllun Gweithredu Anabledd Dyma’r cynlluniau a’r adroddiadau cynnyd diweddaraf.
Cynllun Gweithredu Anabledd 2010-2011
Cynllun Gweithredu ar Anabledd 2009-2010
Adroddiad ar y cynllun gweithredu anabledd ar gyfer 2009-10