Aelod o Gyngor Celfyddydau Cymru.
Mae Osi Rhys Osmond yn Ddarlithydd mewn Arlunio, Peintio a Hanes Celfyddyd ym Mhrifysgol Gelf a Dylunio Prifysgol Fetropolitan Abertawe. Cyn hyn roedd yn Bennaeth Astudiaethau Sylfaen yng Ngholeg Celf Gorllewin Cymru, Caerfyrddin, ac yn ddarlithydd gwadd ym Mhrifysgol Cymru, Llanbedr Pont Steffan.
Bu’n paratoi adolygiadau ac erthyglau ar gelf a diwylliant ers blynyddoedd bellach, ac mae wedi ymddangos ar deledu a radio yn y Gymraeg a’r Saesneg. Mae wedi cyflwyno nifer o gyfresi teledu gan gynnwys ‘Byd o Liw’ a ‘Lliwiau’ ar S4C.
Cafodd ei ethol i Orsedd Eisteddfod Genedlaethol Cymru yn 2006 i gydnabod ei gyfraniad at y celfyddydau, addysg a lledaenu’r iaith Gymraeg. Mae’n arlunydd wrth ei waith, ac yn arddangos llawer ohono. Nid oes ganddo unrhyw benodiadau cyhoeddus Gweinidogol eraill.
Nôl at y rhestr o Aelodau >>