Aelod o Gyngor Celfyddydau Cymru.
Mae Gerwyn Wiliams yn Athro ym Mhrifysgol Bangor. Mae wedi gweithio fel Deon y Cyfadran y Celfyddydau a Gwyddorau Cymdeithasol, Dirprwy Bennaeth Coleg y Celfyddydau a'r Dyniaethau a Dirprwy Gyfarwyddwr yr Ysgol Astudiaethau Cyfrwng Cymraeg.
Cafodd Gadair Bersonol yn 2005 ac roedd yn bennaeth Ysgol y Gymraeg rhwng 2006 a 2009. Enillodd Goron yr Eisteddfod Genedlaethol yn 1994 ac roedd ei gasgliad o gerddi ar restr fer cystadleuaeth Llyfr y Flwyddyn yn 2012.
Bu’n feirniad cystadlaethau llenyddol yr Eisteddfod Genedlaethol ac Eisteddfod yr Urdd nifer o weithiau. Mae’n golygu cyfres lenyddol ar gyfer Gwasg Prifysgol Cymru, ac mae’n gyn-olygydd y cylchgrawn ‘Taliesin’.
Mae ar hyn o bryd yn aelod o Banel Grantiau Cyhoeddi Cyngor Llyfrau Cymru. Nid oes ganddo unrhyw benodiadau cyhoeddus Gweinidogol eraill.
Nôl at y rhestr o Aelodau >>