Heddiw (dydd Gwener 11 Mawrth), union flwyddyn ers perfformiad cyntaf y theatr, dywedodd Alun Ffred Jones, y Gweinidog dros Dreftadaeth: "Mae'n bleser cael llongyfarch National Theatre Wales ar eu llwyddiant flwyddyn ar ôl eu perfformiad cyntaf. Mewn cyfnod byr o amser, maent wedi cael effaith fawr ar y byd diwylliant yng Nghymru a thu hwnt.
"Rai misoedd yn ôl gwelais gynhyrchiad o 'The Weather Factory', a oedd yn enghraifft dda o'r gwaith newydd ac arloesol y mae'r cwmni wedi bod yn ei wneud.
"Cafodd eu rhaglen uchelgeisiol ar gyfer y flwyddyn gyntaf ganmoliaeth uchel ac adolygiadau positif iawn. Does dim amheuaeth eu bod yn cyflawni eu hamcanion i ddatblygu a chyfoethogi theatr iaith Saesneg yng Nghymru.
"Rhoddwyd ymrwymiad i greu theatr Saesneg ei hiaith yng Nghymru yn rhaglen Cymru’n Un Llywodraeth y Cynulliad, ac felly rwy’n falch iawn o weld ei fod wedi’i gyflawni."
Dywedodd John McGrath, Cyfarwyddwr Artistig National Theatre Wales: "Mae'n anodd credu nad oedd National Theatre Wales wedi cynnal unrhyw sioeau flwyddyn yn ôl.
"Rydym wedi cael blwyddyn brysur ers ein noson agoriadol yn Sefydliad Glowyr y Coed Duon - mae ein 12fed cynhyrchiad, sef Mundo Paralelo, bellach yn cael ei lwyfannu yn y Torch yn Aberdaugleddau. Rydym wedi teithio llawer ar draws y wlad, ac yn teimlo ein bod wedi tyfu fyny’n gyflym iawn! Rydym yn hynod falch â'r ymateb rydym wedi’i gael a'r ystod eang o bobl sydd wedi dod i'n perfformiadau.
Rydym bellach yn edrych ymlaen yn fawr at ein hail flwyddyn o gynyrchiadau ar draws Cymru. Rydym yn falch iawn bod Cyngor Celfyddydau Cymru a Llywodraeth y Cynulliad yr un mor ymroddedig â ni i ddatblygu theatr newydd yng Nghymru."
Dywedodd Nick Capaldi, Prif Weithredwr Cyngor Celfyddydau Cymru:
"Mae rhaglen dechreuol National Theatre Wales wedi herio ein syniadau cyfarwydd o beth yw theatr a beth gall e fod. Gyda dychymyg, deallusrwydd a hiwmor mae National Theatre Wales wedi creu partneriaethau newydd cyffroes sydd wedi creu ffrwydrad o creadigrwydd yng nghymunedau ar draws Cymru.
Mae’r ystod o waith wedi bod yn anhygoel, o ddrama am y pwysa cyfoes sy’n wynebu pobol ifanc ym Mhen-y-bont ar Ogwr, i adfywiad o ddram gan Aeschylus yn delio gyda materion sydd yr un mor perthnasol heddiw ac oeddynt yn 500BC. Mae wedi bod yn blwyddyn o weithgaredd anghredadwy, ac fe hoffwn llongyfarch y cwmni am eu llwyddiant am beth maent wedi cyflawni."
Mae Llywodraeth y Cynulliad wedi darparu cyllid o £3 miliwn dros dair blynedd i gefnogi National Theatre Wales.