"Mae Cwmni’r Frân Wen yn croesawu’r cyfle i gydweithio gydag Anthony Browne unwaith eto yn dilyn llwyddiant addasiad ‘Lleisiau yn y Parc’ nôl yn 1999. Roeddem yn awyddus iawn i lwyfannu ei waith i ddathlu ei benodiad fel yr Awdur Plant Llawryfog ac yn ddiolchgar iawn am ei gefnogaeth o a Walker Books gyda’r cynhyrchiad hwn."
- Iola Ynyr, Cyfarwyddwraig Artistig Cwmni’r Frân Wen
Yn Prydferth Fach ceir archwiliad aml-lefel ac aml-ddimensiwn soffistigedig i ddyfnder cyfeillgarwch, prydferthwch mewnol a chymhlethdodau cyfathrebu. Yn seiliedig ar stori wir, ceir hanes gorila sydd wedi dysgu sut i arwyddo. Wedi ei ysbrydoli gan y chwedl draddodiadol ‘Beauty and the Beast’, mae’r awdur yn mynd â ni ar daith o hunan ddarganfyddiad a hunan fynegiant.
Dyma gynhyrchiad llawn hiwmor sy’n cynnig profiad theatrig, bywiog a bythgofiadwy sy’n mynegi neges oesol y llyfr fod bywyd yn gallu bod yn galed ond yn fendigedig o brydferth hefyd. Bydd y cynhyrchiad yn cynnig cyfle i ddatgelu gwirioneddau bywyd tra hefyd yn rhoi cyfle i ni ddod i adnabod ein hunain yn well.
Cyflwynir Prydferth Fach gan yr actorion profiadol a thalentog Elen Gwynne a Sioned Wyn Jones. Mae’r cynllunydd arbrofol Gwyn Eiddior Parri wedi creu set a gwisgoedd arbennig i adlewyrchu naws y llyfr sy’n siwr o gyfareddu’r gynulleidfa. Comisiynwyd y cerddor amryddawn Dewi Ellis Jones i gyfansoddi cerddoriaeth fyddai’n cyfoethogi profiad theatrig y cynhyrchiad arbennig hwn sydd yn llai dibynnol na’r arfer ar ddeialog.
Perfformiadau
Cynhelir perfformiadau cyhoeddus o Prydferth Fach yn y canolfannau canlynol ar ddyddiau sadwrn ac yn ystod gwyliau hanner tymor:
19 Chwefror 2011 Stiwdio Coleg Menai, Bangor 01248 382141
24 Chwefror 2011 Feed My Lambs, Caernarfon 01248 715048
25 Chwefror 2011 Neuadd Dwyfor, Pwllheli 01758 704088
26 Chwefror 2011 Canolfan Glasdir, Llanrwst 01248 715048
5 Mawrth 2011 Oriel Ynys Môn, Llangefni 01248 725700
Gellir archebu tocynnau drwy gysylltu â’r canolfannau ar y rhifau ffon uchod. Rhybuddir bod nifer cynulleidfa yn gyfyngedig felly archebwch eich tocynnau nawr!
Cynhelir perfforimiadau ar gyfer ysgolion cynradd ac arbennig Gwynedd, Ynys Môn a Chonwy rhwng 14 Chwefror a 1 Ebrill 2011.
I gyd-fynd â’r cynhyrchiad bydd yr actores a’r storiwraig Mari Gwilym yn cyflwyno’r stori ‘Prydferth Fach’ mewn llyfrgelloedd lleol. Cyfle gwych i fwynhau’r llyfr a chymryd rhan mewn gweithgareddau. Mae’r sesiynau yn rhad ac am ddim ac wedi eu trefnu mewn cydweithrediad â’r Academi a Llyfrgelloedd Gwynedd, Ynys Môn a Chonwy. (Pob sesiwn i gychwyn am 10.30 o’r gloch)
12 Chwefror 2011 Llyfrgell Bangor
19 Chwefror 2011 Llyfrgell Caernarfon
21 Chwefror 2011 Llyfrgell Pwllheli
22 Chwefror 2011 Llyfrgell Llanrwst
24 Chwefror 2011 Llyfrgell Llangefni
Cofiwch ymweld â gwefan y cwmni www.franwen.com am ragor o wybodaeth ynglyn â Prydferth Fach a chynlluniau’r Cwmni ar gyfer y dyfodol.
Lluniau
Gellir bwrw golwg ar luniau proffesiynol o’r cynhyrchiad ar wefan y Cwmni: www.franwen.com
Hawlfraint: Lluniau Llwyfan
Nodyn
Ariennir y cwmni gan Gyngor Celfyddydau Cymru, Cyngor Sir Gwynedd, Cyngor Sir Ynys Môn a Chyngor Bwrdeistref Sirol Conwy.
Mae Cyngor Celfyddydau Cymru wedi enwi Cwmni'r Frân Wen fel un o'r cwmnïau a fu'n llwyddiannus yn ei Adolygiad Buddsoddiad diweddar. Mae'r Cwmni yn hynod o falch o'r newyddion ac yn edrych ymlaen yn eiddgar i barhau i ddarparu a datblygu theatr o'r safon uchaf i blant a phobl ifanc Gogledd Orllewin Cymru a thu hwnt yn y dyfodol.
DIWEDD
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â Nia Jones, post@franwen.com / 01248 715048