Datganiad gan Gyngor Celfyddydau Cymru
Ar 3 Chwefror 2011, cyflwynodd Pwyllgor Cymunedau a Diwylliant y Cynulliad Cenedlaethol adroddiad ar ei ymchwiliad i hygyrchedd i weithgareddau celfyddydol a diwylliannol yng Nghymru. Mae'r adroddiad yn eang ei gwmpas a chynhwysfawr. Mae'n archwilio sawl agwedd ar ddarpariaeth Llywodraeth Cynulliad Cymru o'i hymroddiadau Cymru'n Un i'r celfyddydau a diwylliant.
Dywedodd yr Athro Dai Smith, Cadeirydd y Cyngor, am yr adroddiad:
"Gwna'r adroddiad swmpus hwn nifer o argymhellion pwysig am sut i wella hygyrchedd i'r celfyddydau yn y dyfodol. Mae ôl meddwl ar ei ddadansoddiad o rai materion allweddol ac edrychwn ymlaen at eu hystyried yn fanwl."
Digwyddodd ymchwiliad y pwyllgor ar yr un pryd â'r cyhoeddiadau ariannu a wnaed yn rhan o adolygiad buddsoddi'r Cyngor. Felly manteisiodd y pwyllgor ar y cyfle i ystyried yr effaith bosibl yr adolygiad buddsoddi gan archwilio cryn dystiolaeth ysgrifenedig ac ar lafar.
Wrth ymateb i sylwadau'r pwyllgor ar yr adolygiad buddsoddi, meddai'r Athro Smith:
"Mae'n glir yn yr adroddiad bod y pwyllgor yn deall y rhesymeg a'r angen am adolygiad buddsoddi strategol y Cyngor. Un arall o'i gasgliadau oedd bod yr ymateb i'r adolygiad yn cynnwys yr holl ystod farn. Nid yw hyn yn syndod o gofio natur radicalaidd a phellgyrhaeddol ein huchelgais i gelfyddydau Cymru. Bu parodrwydd y pwyllgor i gynnig ei farn ar ystod o faterion hygyrchedd ac ymgyfranogi yn gymorth mawr. Erys y materion hyn yn ganolog i drafodaethau fy Nghyngor wrth weithredu canlyniadau'r adolygiad yn y blynyddoedd a ddaw."
-- Diwedd --