Cyngor Celfyddydau Cymru | Mostyn yn ennill gwobr Ymddiriedolaeth Ddinesig
Nôl at y rhestr newyddion

Mostyn yn ennill gwobr Ymddiriedolaeth Ddinesig

Mae’r Wobr arobryn yma, sy’n cydnabod y gorau mewn pensaernïaerh, cynllunio, tirlun a chelf gyhoeddus yn cael ei dyfarnu yn flynyddol gan yr Ymddiredolaeth Ddinesig, cynllun annibynnol sy’n gwobrwyo’r amgylchedd adeiledig. 20 Ion 2011

Mostyn, Llandudno

Mae gofyn i brosiectau llwyddiannus hefyd fod o fantais diwyllliannol, cymdeithasol neu economaidd yn ogystal a gwneud cyfraniad sylweddol i ansawdd a golwg y tirlun adeiladig. Am 2011 mae’r Ymddiriedolaeth wedi dyfarnu gwobr i 57 o broseictau o 333 o geisiadau trwy Brydain a thramor. Y Mostyn yw’r unig Wobr i Gymru eleni.

Fe ailagorodd yr oriel yn Mai 2010 wedi cynllun ehangu a moderneiddio sylweddol. Mae’r adeilad ar ei newydd wedd gan Benseiri EllisWIllaims, yn cyfuno’r talwyneb a’r orielau Fictorianaidd gwreiddiol gydag estyniad newydd hynod o drawiadol. Yn ganolig i’r dyluniad mae nodwedd goncrid, a adnabyddir fel ‘Y Tiwb’, sy’n rhoi ffordd weithredol ac unigryw i ddenu ymwelwyr i mewn i’r orielau. Penodwyd egwyddorion y cynllun gan Lois Williams, fu’n artist ymgynghorol i’r penseiri ar y prosiect, ‘i fod yn syml, yn ddyrchafadwy ac yn soffistigedig – gydag un neu ddau o ryfeddodau.’

Y canlyniad yw gofod arbennig sy’n cynnig pedair prif oriel a dau ofod arddangos llai yn ogystal â chyfleusterau addysg newydd rhagorol, siop grefftau a chaffi a alwyd yn Caffi Lux, i adlewyrchu natur y golau oedd yn gymaint o nodwedd o hen adeilad y Mostyn, ac a fureinwyd yn yr adeilad newydd.

Ers ail-agor mae’r Mostyn, sy’n adeiladu ar dreftadaeth gyfoethog o ddangos y gorau o gelfyddyd cyfoes Cymru ynghyd â galluogi ymwelwyr i brofi rhychwant o waith newydd gan artistiaid rhyngwladol, wedi croesawu ymron 60,000 o ymwelwyr ac wedi ailsefydlu ei hun fel atyniad twristaidd trawiadol yn ngogledd Cymru yn ogystal a bod yn adnodd pwysig i’r gymuned leol.

Dywedodd Martin Barlow, Cyfarwyddwr y Mostyn: "Rydym wrth ein bodd i ennill y Wobr Ymddiredolaeth Ddinesig, yn enwedig fel yr unig enillwyr o Gymru yn 2011. Mae ein hadeilad yn cael ei fwynahu gan filoedd o ymwelwyr yn ogystal a bod yn lle braf i weithio ynddo; mae’n cadw ei gysylltiadau gyda’r gorffennol ond yn gwneud datagniad hyderus a thrawiadol ar gyfer y dyfodol. Rydym yn credu fod yr adeilad yn symbolaidd o bensaernïaeth Llandudno yn ei grynswth a mae’r Wobr Ymddiriedolaeth Ddinesig yn cydnabod hyn."

Byd y Gwobrwyon yn cael eu rhannu yn y People’s History Museum yn Manceinion ar nos Wener y 4ydd o Fawrth.

Am fwy o wybodaeth neu luniau cysyllter â Nia Roberts, Swyddog Marchanta ar 01492 879201 neu ebostio nia@mostyn.org

Elusen Gofrestredig Rhif 1034245