Yn Nhŷ Tredegar, 3-5 Rhagfyr, cewch gyfle i brynu anrhegion Nadolig unigryw a wnaed â llaw yn uniongyrchol oddi wrth 140 o wneuthurwyr a dylunwyr gorau Cymru a Phrydain.
I hwyluso'r broses cynnig Cyngor Celfyddydau Cymru Gynllun Casglu, sef gwasanaeth credyd di-log i chi brynu anrhegion yno. Yn yr hinsawdd ariannol sydd ohoni, ni fydd buddsoddi yn y celfyddydau yn eich siomi.
Er 1983 pan gyflwynwyd y cynllun, hwylusodd dros 26,000 o fenthyciadau di-log i brynu celf a chrefft gyfoes hyd at werth £11.9 miliwn. Ac ar ben hyn aiff eich arian i gefnogi artistiaid ac orielau Cymru a chewch gadw darn o gelfyddyd i'w arddangos gartref. Gallai fod yn ddarn o emwaith gwahanol, mat bywiog wedi'i wehyddu neu lun gwych.
Mae Cynllun Casglu hefyd yn enghraifft ardderchog o fentergarwch Cymru yn arwain y gad. Fe'i haddaswyd gan Gyngor Celfyddydau'r Alban ac un Lloegr ers i ni ei ddyfeisio 27 mlynedd yn ôl.
Meddai David Alston, Cyfarwyddwr y Celfyddydau, Cyngor Celfyddydau Cymru:
'Roedd bri mawr erioed ar gasglu yng Nghymru; aeth cefnogi a datblygu casgliadau personol yn rhan arwyddocaol o strategaeth y Cyngor i gefnogi artistiaid a chreu'r cyfle i brynu celf a chrefft mewn ffordd fwy hygyrch byth.'
Mae'n gynllun Cymreig llwyddiannus ac arloesol ac os nad oedd un digwyddiad Cynllun Casglu'n ddigon, i nodi canmlwyddiant y Gymdeithas Gelfyddyd Gyfoes, bydd symposiwm o siaradwyr gwadd i drafod casglu celfyddyd gyfoes yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd, 2-4.30pm ddydd Gwener 3 Rhagfyr.
Ystyria'r digwyddiad sut gall Cymru ddatblygu ei marchnad i gynnwys pob chwaeth yn y gwaith newydd a gynhyrchir yma a sut gallwn ymgysylltu â'r unigolion, y busnesau a'r artistiaid yn y farchnad sydd ar ddatblygu.
Felly yn lle cael eich gwasgu ynghanol torf orffwyll o siopwyr Nadolig, dewch i'r ŵyl amgen yn Nhŷ Tredegar.
Diwedd
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â Siân James, ar 029 2044 1344 neu e-bostiwch sian.james@celfcymru.org.uk
Nodiadau i olygyddion
Am ragor o wybodaeth am Gynllun casglu ewch i: www.cynlluncasglu.org.uk
Am restr lawn o orielau sydd wedi ymaelodi â'r cynllun ewch i:
www.cynlluncasglu.org.uk/orielau