Cyngor Celfyddydau Cymru | Creadigrwydd - hanfodol i lwyddiant a chyflawniad pobl ifainc
Nôl at y rhestr newyddion

Creadigrwydd - hanfodol i lwyddiant a chyflawniad pobl ifainc

Heddiw lansiwyd gan yr Athro Dai Smith, Cadeirydd Cyngor Celfyddydau Cymru, adroddiad newydd ar sut y cydweithia sectorau addysg a chelfyddydau Cymru gan gynnwys pob math ar gefnogaeth i'r celfyddydau mewn ysgolion. 25 Medi 2013

Creadigrwydd - hanfodol i lwyddiant a chyflawniad pobl ifainc

Comisiynwyd y cydadolygiad gan Lywodraeth Cymru i graffu am y tro cyntaf ar y berthynas rhwng y sectorau celfyddydol ac addysgiadol yng Nghymru.

Yn yr adolygiad hwn, ymgynghorwyd â 471 o blant a phobl ifainc rhwng Tachwedd 2012 a Mawrth 2013. Tynnwyd y plant oed 5-19 o 42 o ysgolion, colegau a sefydliadau. I gael darlun cywirach a mwy cynhwysfawr ymgymerai'r tîm adolygu ag ymgynghoriad trylwyr ledled Cymru gan siarad wyneb yn wyneb ag ymarferwyr ym meysydd y celfyddydau ac addysg a chyda'r rhai sy'n derbyn addysg. Rhoes y canfyddiadau fewnwelediad unigryw i'r celfyddydau a chreadigrwydd mewn addysg o safbwynt y rhai yr effeithir arnynt yn uniongyrchol sef pobl ifainc.

Arwyddocaol yw'r ffaith i 99% o ysgolion a ymatebodd deimlo bod ymwneud â'r celfyddydau yn gwella ymgysylltu'r rhai sy'n derbyn addysg. Mewn modd tebyg teimlai ysgolion fod y celfyddydau yn datblygu lles (98%) a sgiliau rhyngbersonol (99%) a theimlai pob artist y datblygir y sgiliau hyn i ryw raddau gan y celfyddydau.

Teimlai pawb yr ymgynghorwyd â hwy – gan gynnwys pobl ifainc, athrawon ac ymarferwyr celfyddydol – fod artistiaid a sefydliadau celfyddydol sy'n mynd i ysgolion yn bwysig iawn i sbarduno diddordeb y plant yn y maes ac ategu dysgu celf bob dydd. Teimlent hefyd y caent pobl ifainc fuddion mawr ac ysbrydoliaeth o ymweld â theatrau, orielau ac arddangosfeydd.

"Mae'r celfyddydau ymhob man ac yn rhan fawr o'n bywyd. Os nad oedd dim celfyddydau, byddwn ni'n byw mewn ogofâu o hyd". Plentyn 9 oed.

O ran plant ysgol rhwng 5 ac 16 oed, dengys y dystiolaeth hefyd y dylid cyflwyno iddynt gyfoeth o brofiadau celfyddydol sy'n ddifyr, heriol a diddorol gan gynnwys teithiau maes i ddigwyddiadau, orielau, perfformiadau a sgyrsiau gan feirniaid a phreswylfeydd celfyddydol mewn ysgolion i gyfoethogi cyflawniad neu uchelgais pob ysgol o ran y celfyddydau.

Ymhob ysgol ledled Cymru, dylai pob myfyriwr ymgysylltu'n llwyr â chreadigrwydd y celfyddydau iddo gael addysg berthnasol i'w dyfodol.

"Roedd gwneud celf yn gymorth imi pan gawn amser gwael yn yr ysgol. Pe na bai celf yn yr ysgol byddwn yn eithaf crac. Mae'n gymorth o ran hunaniaeth ac yn rhywbeth gwahanol i'r gwersi arferol gan roi cyfle ichi eich canfod eich hun." Myfyriwr (18 oed)

Ar ben hynny amlyga'r adroddiad greadigrwydd yn sgìl craidd y dylai pob disgybl yng Nghymru feddu arno. Dadleua dros feithrin creadigrwydd mewn pobl ifainc yn ffordd o greu gweithlu medrus, arloesol a chreadigol. Awgryma y gallai'r celfyddydau fod yn rhan hanfodol drwy ymgorffori dysgu creadigol mewn cymwysterau a'r cwricwlwm gan arfogi pobl ifainc â'r ystod o sgiliau a chymwyseddau gofynnol i weithio mewn unrhyw ddiwydiant.

Meddai'r Athro Dai Smith, Cadeirydd Cyngor Celfyddydau Cymru:

"Ni thynna addysg gelfyddydol oddi wrth lythrennedd a rhifogrwydd a dylid ei ystyried yn fodd i alluogi gwella safonau yn y blaenoriaethau academaidd. Rhaid ailbwysleisio gwerth y celfyddydau mewn ysgolion ac yn bwysicach byth cefnogi ysgolion wrth iddynt ddarparu gweithgarwch creadigol trawsgwricwlar mewn ffyrdd mwy dychmyglon.

"Credaf i'r adroddiad hwn ddarparu darlun clir o fanteision y fath addysg. Mae gennym athrawon ac artistiaid ag uchelgais i saethu Cymru i res flaen y chwyldro (er gwell, er gwaeth) a newidia'r systemau addysg yng ngwledydd mwyaf hirben y byd. Ond yn bennaf ein plant a'n pobl ifainc sy'n hawlio hyn i Gymru eu dyfodol ac ni ddylem eu gadael yn waglaw. Os llaeswn ddwylo'n awr, ni fydd modd adennill y tir wedyn."

Meddai John Griffiths, y Gweinidog dros Ddiwylliant a Chwaraeon:

"Dangosodd yr adolygiad fod llawer o waith ardderchog yn ein hysgolion, ein hartistiaid a'n sefydliadau celfyddydol. Gwyddom y gall pynciau celfyddydol gyfrannu'n unigryw a nodweddiadol i allu pob person ifanc i ddychmygu, creu a chyfathrebu fel y dônt yn unigolion hyderus a chreadigol. Bydd yr adroddiad yn fodd inni godi proffil y celfyddydau mewn addysg a chynyddu agenda hygyrchedd ac ymgyfranogiad i bawb."

Meddai Huw Lewis, y Gweinidog dros Addysg a Sgiliau:

"Croesawaf adroddiad yr Athro Smith. Amlyga swyddogaeth ffordd sy'n gelfyddydol gyfoethog o ymgysylltu â'r rhai sy'n derbyn addysg a datblygu sgiliau creadigol drwy'r celfyddydau a sut

y gall hon arwain at fuddion ymhob pwnc. Yn awr ystyriwn yr adroddiad yn bwyllog a manwl ochr yn ochr â'n hadolygiad ehangach o'r cwricwlwm cyfan gan edrych ar sut y gallwn wella cydweithio rhwng sectorau celfyddydau ac addysg Cymru."

Casgliad yr Athro Dai Smith oedd:

"Y celfyddydau mewn addysg yw'r ffordd orau sydd gennym o greu dyfodol hyderus ar lwyfan y byd i'n cenedl fechan. Cymeradwyir y rhai sy'n mentro. Nid ffyrdd amgen o fyw yw'r celfyddydau eithr bywyd ei hun. Rhodd ydyw o'n gorffennol i'n dyfodol. Nid oes dim byd sy'n fwy hanfodol i hunaniaeth Cymru."

Mae'r adroddiad llawn ar gael i'w lawrlwytho yma.

Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â Siân James ar 029 2044 1344 neu e-bostiwch sian.james@cyngorcelfyddydaucymru.org.uk

Elusen Gofrestredig Rhif 1034245