Cyngor Celfyddydau Cymru | Llwyfan i Gymru yn WOMEX 2010
Nôl at y rhestr newyddion

Llwyfan i Gymru yn WOMEX 2010

Cynhelir WOMEX yn Copenhagen, Denmarc rhwng 27-31 Hydref 2010. Dyma ymgynulliad mwyaf y byd ar gyfer cerddoriaeth ethnig, draddodiadol, amgen, leol ac mewn ieithoedd lleiafrifol. 13 Hyd 2010

Llwyfan i Gymru yn WOMEX 2010

Logo Cerdd CymruBydd llwyfan Cerdd Cymru yn cael ei arwain gan y delynores Catrin Finch a fydd yn perfformio ynghyd â Calan, 9bach a Mabon. Bydd partneriaeth Cerdd Cymru a sylfaenwyd gan Celfyddydau Rhyngwladol Cymru a Sefydliad Cerddoriaeth Cymru yn cael ei lawnsio yn Copenhagen.

Meddai Alun Ffred Jones, Gweinidog dros Dreftadaeth:

"Mae'n bwysig cyflwyno talent Cymru ar lwyfannau rhyngwladol o bwys megis WOMEX. Mae’r ffair fasnach cerddoriaeth byd yn llwyfan bwysig i hyrwyddo a datblygu cysylltiadau rhyngwladol a chyfleoedd i gerddorion a’r sector cerddoriaeth yng Nghymru. Mae'n gyfle unigryw i'r artistiaid a ddewiswyd i berfformio gerbron y gynulleidfa arbennig hon a manteisio ar bob cyfle a ddaw ohono. Dwi’n gefnogol iawn o’r cais i Gymru gynnal WOMEX yn y dyfodol."

Meddai Jamie Smith o'r band Mabon:

"Rydym wrth ein bodd i ni gael ein dewis i chwarae yn WOMEX yn Copenhagen eleni. Mae'n anodd iawn cael slot fel hyn, ond gyda chefnogaeth Cerdd Cymru bydd gennym gyfle gwych i chwarae o flaen pobl broffesiynol y diwydiant cerddoriaeth ar draws y byd a dangos beth gallwn ni gyflawni!"

Mae Cerdd Cymru yn rhan o ymgyrch codi proffil cerdd o Gymru yn y byd. Un elfen fydd y cais i ddod â WOMEX i Gaerdydd yn 2013.

Mae'n atynnu 2,700 o bobl a 650 o gwmnïau o 90 o wledydd ac mae’n chwarae rôl ganolog wrth ddatblygu llwyfan i artistiaid Prydain sy'n ceisio ennill eu plwyf yn rhyngwladol. Bydd rhai cwmnïau a sefydliadau o Gymru yn arddangos yng nghynhadledd fasnachol WOMEX.

Arweinir y digwyddiad Cymreig gan y delynores byd enwog Catrin Finch, hi’n ogystal yw llysgennad Caerdydd fel ymgeisydd swyddogol ar gyfer WOMEX 2013.

Meddai Catrin Finch:

"Bydd noson Cerdd Cymru yn dathlu hyder ac uchelgais ein cenedl. Rwy’n edrych ymlaen yn arw i fod yn rhan o noson sy’n bair o dalent. Bydd yn gyfle’n ogystal i ddangos i WOMEX beth sydd gan Gymru i gynnig yn 2013."

Meddai Eluned Haf, Cyfarwyddwr, Celfyddydau Rhyngwladol Cymru:

"Mae cefnogi artistiaid o Gymru i wneud eu marc yn rhyngwladol yn hynod bwysig ar hyn o bryd. Mae’r farchnad ryngwladol wedi’r cwbwl yn dyngedfennol i ddyfodol economi greadigol Cymru – sector sy’n cael blaenoriaeth gan Lywodraeth Cynulliad Cymru. Mae presenoldeb yn yr arddangosiadau rhyngwladol yn gyfle unigryw i ddatblygu lle cerddoriaeth Cymru yn y byd.

Mewn cyfnod o ansefydlogrwydd economaidd, rydym angen bod hyd yn oed yn fwy creadigol ac uchelgeisiol ynglŷn â sut y gallwn ddenu'r prif ddigwyddiadau rhyngwladol i Gymru. Byddai croesawu WOMEX yn 2013 yn rhoi hwb sylweddol i economi Caerdydd a Chymru gyfan."

Diwedd

Am ragor o wybodaeth a chyfleoedd cyfweld, cysylltwch â Siân James, Swyddog y Wasg a'r Cyfryngau, Cyngor Celfyddydau Cymru ar 029 2044 1344 /07812 801356 neu sian.james@celfcymru.org.uk

Elusen Gofrestredig Rhif 1034245