Cyngor Celfyddydau Cymru | Theatr Mumford 02/10/2012

In the Locked Room & Ghost Patrol

Dechrau chwiliad newydd

Ychwanegwch fi at y Cyfeiriadur Celf!

Mewngofnodi / Cofrestru
In the Locked Room & Ghost Patrol

In the Locked Room: Drws caeedig sy’n ysgogi obsesiwn mor gryf nes i’r ffin rhwng yr hyn sy’n real a’r hyn sy’n ffantasi fynd yn aneglur.

Ghost Patrol: Bar cyfoes lle mae tri o bobl sy’n ceisio dianc oddi wrth eu gorffennol yn dod wyneb yn wyneb gan ddatgelu cyfrinach arswydus ac achosi trasiedi anorfod.

Mae'r ddwy opera fer hyn yn archwilio gallu’r meddwl i lunio’n bywydau: yr un gyntaf drwy rym y dychymyg, a’r ail drwy rym rhyfeddol y cof.

Mae’r cyfansoddwyr Huw Watkins a Stuart MacRae yn perthyn i genhedlaeth o bobl ifanc rhyw 30 oed sy’n gyflym yn dod yn amlwg ymhlith cyfansoddwyr mwyaf blaenllaw Prydain. Mae’r ddau’n cydweithio ag awduron cydnabyddedig - Watkins gyda’r bardd a’r libretydd David Harsent (The Minotaur ar gyfer Harrison Birtwistle) a MacRae â’r nofelydd Louise Welsh (The Cutting Room) - i ddod â chyffro’r storïau hyn yn fyw ar y llwyfan.

Mae Music Theatre Wales, sydd wedi ennill nifer o wobrau, wedi cyfuno â Scottish Opera i gomisiynu a chynhyrchu’r ddau waith, a chawsant eu perfformio am y tro cyntaf yng Ngŵyl Ryngwladol Caeredin yn 2011.

Elusen Gofrestredig Rhif 1034245