Cyngor Celfyddydau Cymru | Stiwt Llanhilleth 13/07/2012

Ychwanegwch fi at y Cyfeiriadur Celf!

Mewngofnodi / Cofrestru

Ydych chi am wneud eich cyflwyniadau’n fwy cofiadwy?
Ydych chi am fagu’r hyder i sefyll o flaen grŵp?

Gweithdy ymarferol ydi hwn. Nid dim ond dysgu amdano wnewch chi - fe’i gwnewch! Gan ddefnyddio cefndir Ruth yn y theatr a phrofiad Anne yn y celfyddydau gweledol, bydd y cwrs undydd yn cynnwys:
• Ffyrdd o sadio’ch nerfau
• Ymarferion anadlu i wella eich llais
• Deall sut y mae pobol yn ymateb i wybodaeth - drwy’r llygad, drwy’r glust a thrwy symud - a sut i ddefnyddio’r wybodaeth yma
• Sut i osgoi’r Saith Pechod Marwol pan fyddwch chi’n gwneud cyflwyniadau
• Sut i roi mwy o fflach ac ergyd i’ch deunyddiau
£95: elusennau / cyrff yn y trydydd sector a’r celfyddydau
£45 i artistiaid unigol
a £5 am ginio a lluniaeth

Ychydig o lefydd

Elusen Gofrestredig Rhif 1034245