Cyngor Celfyddydau Cymru | Theatr Ffynnon

Theatr Ffynnon

Dechrau chwiliad newydd

I Ychwanegu proffil, digwyddiad neu gyfle...

Mewngofnodi / Cofrestru
Yn lle ydych wedi'ch lleoli?
Theatr Ffynnon
54 Stryd Victoria
Hen Gwmbrân
NP44 3JN
Torfaen
Manylion cyswllt
Patricia O’Sullivan
01633 838 672
patricia@theatrffynnon.co.uk
www.theatrffynnon.co.uk
Cymorth gan Gyngor Celfyddydau Cymru
Sefydliadau: Grantiau Mawrion
Sefydliadau: Grantiau Bychain
Sefydliad Refeniw

Gwybodaeth

Untitled User Untitled User
Cwmni theatr a chelfyddydau cymunedol unigryw ydi Theatr Ffynnon sy’n gweithio’n bennaf gydag oedolion a phobol ifanc a chanddyn nhw anableddau dysgu, ac fe’i cydnabyddir yn fodel arfer gorau yn cefnogi datblygu diwylliant celfyddydau anabledd yng Nghymru ac ymhellach draw.

Rydym yn bodoli i gyfoethogi bywydau pobol a chanddyn nhw anableddau dysgu, anableddau corfforol ac anhwylderau iechyd meddwl, trwy ddarparu cyfleoedd datblygu drwy hyfforddiant a chymryd rhan yn y celfyddydau gweledol a pherfformio. Trwy gyfleoedd mor amrywiol, gwnawn ein gorau i newid canfyddiadau yn y cymunedau lle gweithiwn, drwy hybu dealltwriaeth fwy ac ymgysylltu.

Mae creu amgylchfyd hergar, cyfleugar ond diogel yn hanfodol i’n gwaith. Credwn, o lunio peth o’n gwaith o gwmpas achosion amserol neu gynhennus, y gallwn helpu i wynebu agweddau negyddol a herio disgwyliadau o ran beth all unigolion a chanddyn nhw anableddau dysgu, anableddau corfforol ac anhwylderau iechyd meddwl ei gyflawni.

Mae’r amrywiaeth o waith a wnawn yn cael ei ddyfeisio a’i arwain yn gyson gan yr aelodaeth (cant ar hyn o bryd) a’r cymunedau rydym yn gweithio ynddynt, i bennu themâu neu achosion perthnasol i’r unigolyn ac i’r cymunedau a gynrychiolwn.

Digwyddiadau

RSS Ni ddarganfuwyd digwyddiad sy'n cyfateb i'ch chwiliad

Swyddi a chyfleoedd

RSS Ni ddarganfuwyd swydd neu gyfle sy'n cyfateb i'ch chwiliad

Prosiectau rhyngwladol

Elusen Gofrestredig Rhif 1034245