Cyngor Celfyddydau Cymru | Cyhoeddi Cadeirydd newydd Llenyddiaeth Cymru
Nôl at y rhestr newyddion

Cyhoeddi Cadeirydd newydd Llenyddiaeth Cymru

Yr Athro Damian Walford Davies, o Brifysgol Aberystwyth, yw Cadeirydd newydd Llenyddiaeth Cymru, yn dilyn ymddeoliad y cyd-Gadeiryddion blaenorol Dr Harri Pritchard Jones a Dr John Pikoulis. 17 Gorff 2012

Cyhoeddi Cadeirydd newydd Llenyddiaeth Cymru
Yr Athro Damian Walford Davies,

Mae Damian yn Athro a Phennaeth yr Adran Saesneg ac Ysgrifennu Creadigol ym Mhrifysgol Aberystwyth. Mae’n fardd, yn feirniad llenyddol ac yn olygydd. Mae’n Gymro Cymraeg ac yn byw yn Aberystwyth gyda’i wraig Francesca a’u dau o blant ifainc.

Bu Dr Harri Pritchard Jones a Dr John Pikoulis yn gyd-Gadeiryddion Llenyddiaeth Cymru ers ei sefydlu yn 2011. Gynt, buont yn gyd-Gadeiryddion yr Academi, sefydliad a ymunodd â Chanolfan Ysgrifennu Tŷ Newydd i greu Llenyddiaeth Cymru.

Dywedodd Dai Smith, Cadeirydd Cyngor Celfyddydau Cymru: "Rhaid diolch i arweinyddiaeth ac ymdrechion dibrin Harri Pritchard Jones a John Pikoulis fel cyd-Gadeiryddion Bwrdd ymroddedig ac anhunanol am lwyddiant y dasg o uno Academi a Thŷ Newydd i greu Llenyddiaeth Cymru. Bellach, gyda Lleucu Siencyn fel Prif Weithredwr, mae cyfnod newydd a chyffrous ar droed a Bwrdd newydd etholedig o dan arweinyddiaeth Damian Walford Davies. Wrth gryfhau amcan a strwythur Llenyddiaeth Cymru, gallwn weld sut y bydd ein llenyddiaeth yn datblygu ac yn lledaenu, yng Nghymru a thu hwnt, ac yn ymsefydlu wrth wraidd prif strategaeth Cyngor Celfyddydau Cymru o Adnewyddu a Thrawsnewid ar gyfer yr unfed ganrif ar hugain."

Mewn datganiad ar y cyd, dywedodd Harri Pritchard Jones a John Pikoulis: "Mae Llenyddiaeth Cymru ar drothwy datblygiadau newydd cyffrous. Ers ei sefydlu llynedd, mae cwmni cenedlaethol diweddaraf Cymru wedi ehangu ei raglen ac erbyn hyn mae ganddo Brif Weithredwr, Cadeirydd a Bwrdd Rheoli newydd. Byddant oll yn gweithio i sicrhau fod gan y ffurf hynaf o gelfyddyd yng Nghymru egni newydd, gan fynd â llenyddiaeth i bob cornel o’r wlad." Ychwanegasant: "Rhaid diolch i nifer o bobl sydd wedi gweithio’n galed i greu’r corff newydd, gan gadw gwerthoedd yr elfennau sydd wedi dod at ei gilydd." Ceir datganiad llawn islaw.

Wrth ddechrau’r swydd newydd, dywedodd Damian Walford Davies: "Mae cymryd rôl Cadeirydd un o gwmnïau cenedlaethol Cymru yn fraint - ac yn sialens. Mae gan Llenyddiaeth Cymru eisoes hanes disglair; ers 1959 bu’n esblygu i guriad newidiadau yn y byd cymdeithasol, diwylliannol a gwleidyddol. Bellach, gyda Bwrdd deinamig o bobl broffesiynol gydag arbenigedd yn yr holl feysydd y gall llenyddiaeth ei gyrraedd, mae ganddo’r gallu i chwarae rhan gryfach fyth mewn adnabod, meithrin, galluogi a hyrwyddo awduron o Gymru o bob cefndir ac oedran, ac yn y ddwy iaith - yng Nghymru ac yn fyd-eang. Fy nod fel Cadeirydd yw sicrhau lle i’r egni radical sydd gan ein dwy lenyddiaeth yn nhrafodaethau cyfoes, fel bod ysgrifennu nid yn unig yn bleser i rai ond yn declyn newid a thrawsnewid i bawb."

Hefyd yn ymuno â’r Cadeirydd newydd mae sawl Aelod newydd i’r Bwrdd: y bardd a’r entrepreneur William Ayot; y newyddiadurwr a’r darlledwr Catrin Gerallt; Bethan Hughes, y llyfrgellydd a’r hyrwyddwr darllen; y cyflwynydd a’r cynhyrchydd Angharad Mair; yr awdur a’r beirniad Sioned Williams; yr awdur ac ymgynghorydd ar liwt ei hun Angharad Wynne. Maent yn ymuno â Llenyddiaeth Cymru mewn cyfnod cyffrous o newid a datblygu, a byddant yn arwain ac yn cynghori ar bortffolios penodol. Mae’r portffolios yn cynnwys: Cysylltiadau Cyhoeddus a Materion Cyhoeddus; Y Cyfryngau a Datblygu Cynulleidfaoedd; Lletygarwch, Twristiaeth a Threftadaeth; Llywodraeth a Pholisïau; Codi Arian a Busnes. Mae’r Aelodau newydd yn ymuno â thri Aelod sydd yn parhau ar Fwrdd Llenyddiaeth Cymru: y bardd ac awdur R. Arwel Jones; y bardd, golygydd a beirniad Kathryn Gray; y bardd ac awdur i blant Phil Carradice.

Elusen Gofrestredig Rhif 1034245