Crëwyd Criw Celf gan Uned Celfyddydau Cymunedol Cyngor Gwynedd yn 2007 i gynnig rhaglen o hyfforddiant celf i blant sydd wedi dangos diddordeb ac/neu dalent penodol yn y celfyddydau gweledol. Mae Criw Celf bellach ar gael drwy ogledd Cymru ac yn edrych ymlaen at y datblygiad newydd hwn. Bydd y ddarpariaeth bresennol o hyfforddiant yn y celfyddydau gweledol yn parhau yn ystod y flwyddyn ysgol nesaf, gyda’r aelodau Criw Celf presennol yn cael cynnig mynychu dosbarth meistr arall.
Bydd y fenter newydd, Criw Celf Digidol, yn cynnig rhaglen o ddosbarthiadau meistr i ddisgyblion o Flwyddyn 9, gydag arlunwyr digidol profiadol a fydd yn cynnig profiadau a hyfforddiant o ansawdd uchel. Bydd Criw Celf Digidol yn darparu rhaglen o ddosbarthiadau meistr mewn ffotograffiaeth ddigidol, ffilm, animeiddio ac ati. Bydd manylion am y broses ymgeisio yn cael eu hanfon i bob ysgol uwchradd yng Ngogledd Cymru yn fuan ym mis Medi a bydd gwybodaeth yn cael ei rhoi ar ein tudalen facebook (‘Criw Celf’).
Am ragor o wybodaeth ffoniwch: (01286) 679721
*Ariennir Criw Celf a Chriw Celf Digidol gan Gyngor Celfyddydau Cymru a phob Awdurdod Lleol yng ngogledd Cymru.